{"id":9215,"date":"2026-08-11T17:00:54","date_gmt":"2026-08-11T17:00:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/claire-hughes-as-yn-rhannu-ei-phrofiad-gyda-canser-y-fron-mewn-rhaglen-ddogfen-newydd\/"},"modified":"2026-08-11T17:55:45","modified_gmt":"2026-08-11T17:55:45","slug":"claire-hughes-as-yn-rhannu-ei-phrofiad-gyda-canser-y-fron-mewn-rhaglen-ddogfen-newydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/claire-hughes-as-yn-rhannu-ei-phrofiad-gyda-canser-y-fron-mewn-rhaglen-ddogfen-newydd\/","title":{"rendered":"Claire Hughes AS yn Rhannu Ei Phrofiad gyda Canser y Fron mewn Rhaglen Ddogfen Newydd"},"content":{"rendered":"\t\t<div data-elementor-type=\"wp-post\" data-elementor-id=\"9215\" class=\"elementor elementor-9215 elementor-9196\" data-elementor-settings=\"{&quot;ha_cmc_init_switcher&quot;:&quot;no&quot;}\" data-elementor-post-type=\"post\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-66e0094b e-con-full e-flex e-con e-parent\" data-id=\"66e0094b\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-2bcea41f elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"2bcea41f\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p><strong>Mae Claire Hughes AS wedi rhyddhau rhaglen ddogfen hynod bersonol am ei phrofiad o ganser y fron, yn y gobaith y bydd rhannu ei stori yn annog mwy o bobl i wirio eu brest a cheisio cyngor meddygol os nad yw rhywbeth yn teimlo\u2019n iawn.<\/strong><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r ffilm wyth munud yn dilyn Claire wrth iddi fyfyrio ar y saith mis a newidiodd ei bywyd, o ddod o hyd i lwmp bach ar hap i gael llawdriniaeth, cemotherapi a radiotherapi ar gyfer canser y fron negyddol triphlyg gradd 3.<\/span><\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-45aa664 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-id=\"45aa664\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-59b3a4e elementor-widget elementor-widget-video\" data-id=\"59b3a4e\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-settings=\"{&quot;youtube_url&quot;:&quot;https:\\\/\\\/youtu.be\\\/2MIzQRPyMd4&quot;,&quot;video_type&quot;:&quot;youtube&quot;,&quot;controls&quot;:&quot;yes&quot;}\" data-widget_type=\"video.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-wrapper elementor-open-inline\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-video\"><\/div>\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-93501f5 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"93501f5\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p><i><span style=\"font-weight: 400;\">Gwyliwch raglen ddogfen wyth munud Claire am ei phrofiad o ganser y fron, triniaeth ac adferiad.<\/span><\/i><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Cafodd Claire ddiagnosis ym mis Hydref 2025, ychydig wythnosau ar \u00f4l cael ei phenodi\u2019n Weinidog yn Swyddfa Cymru. Yn y rhaglen ddogfen, mae\u2019n siarad yn agored am realiti corfforol ac emosiynol triniaeth ac adferiad, yn ogystal ag effaith annisgwyl y menopos a achoswyd gan driniaeth, rhywbeth nad oedd hi\u2019n gwybod llawer amdano cyn ei diagnosis.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Wedi\u2019i ffilmio ledled Gogledd Cymru, mae\u2019r rhaglen ddogfen hefyd yn dilyn Claire i rai o\u2019r lleoedd a\u2019i helpodd drwy ei thriniaeth, gan gynnwys yr arfordir ar hyd Gogledd Cymru a mynyddoedd y Carneddau yn agos at ei chartref.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Dywedodd Claire:<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cOs bydd rhannu fy stori yn annog hyd yn oed un person i wirio ei hun neu fynd i gael rhywbeth wedi\u2019i archwilio\u2019n gynt, yna bydd wedi bod yn werth chweil.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cPeidiwch \u00e2 meddwl nad oes angen i chi wirio eich hun dim ond am eich bod yn ifanc. Y mwyaf rydw i wedi\u2019i ddysgu amdano, y mwyaf rydw i wedi gweld sut mae\u2019r math hwn o ganser yn effeithio ar fenywod iau.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cMae llawer o adnoddau gwych ar-lein gan Breast Cancer Now, CoppaFeel! a Cancer Research UK, ac rydw i wir yn gobeithio y bydd pobl yn cymryd ychydig funudau i ddysgu beth i gadw llygad amdano a chael unrhyw beth anarferol wedi\u2019i wirio.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae Claire hefyd yn talu teyrnged yn y ffilm i staff y GIG a fu\u2019n gofalu amdani drwy gydol ei thriniaeth.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Dywedodd:<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cMae\u2019r nyrsys gofal y fron, y llawfeddyg a phawb mor garedig. Does neb yn eich brysio, mae pawb yn cymryd eu hamser i ateb eich cwestiynau a gwneud yn si\u0175r eich bod wedi deall popeth. Rydyn ni mor ffodus o gael ein GIG ac o gael pobl mor wych yn gweithio ynddo.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Wrth fyfyrio ar gwblhau ei thriniaeth a dychwelyd i San Steffan ym mis Mai, dywedodd Claire fod y profiad wedi ei gwnedu hi\u2019n fwy pernderfynol i barhau i gynrychioli\u2019r cymunedau lle cafodd ei magu.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cMae bywyd yn fyr. Pa fraint fwy sydd yna na chynrychioli\u2019r lle y cawsoch eich magu a\u2019r lle rydych chi\u2019n ei alw\u2019n gartref?<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cMae mynd drwy ganser yn eich atgoffa o\u2019r hyn sy\u2019n wirioneddol bwysig. Mae wedi fy wneud i\u2019n fwy penderfynol i barhau i frwydro dros y cymunedau rydw i\u2019n eu cynrychioli.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae tua 60,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser y fron yn y DU bob blwyddyn. Mae Claire yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiad yn helpu mwy o bobl i ddod yn gyfarwydd ag arwyddion a symptomau\u2019r clefyd, gwneud gwirio eu bronnau neu eu brest yn arfer rheolaidd a cheisio cyngor meddygol os byddant yn sylwi ar newid.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r rhaglen ddogfen wedi derbyn cefnogaeth gan Breast Cancer Now, CoppaFeel! a Maggie\u2019s, sy\u2019n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl y mae canser y fron a mathau eraill o ganser yn effeithio arnynt.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Dywedodd Claire Rowney, Prif Weithredwr Breast Cancer Now:<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cRydym mor ddiolchgar i Claire am rannu ei phrofiad personol o ganser y fron mor agored drwy\u2019r ffilm hon ac am dynnu sylw at bwysigrwydd gwirio\u2019r bronnau a diagnosis cynnar.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cRydym yn gwybod bod pobl fel Claire sy\u2019n rhannu eu straeon yn helpu i normaleiddio trafodaethau am iechyd y fron a phwysigrwydd gwirio\u2019r bronnau.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Dywedodd Natalie Haskell, Prif Weithredwr CoppaFeel!:<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cRydym yn ddiolchgar iawn i Claire am rannu ei stori ac am dynnu sylw at y ffaith bod miloedd o fenywod iau yn cael diagnosis o ganser y fron bob blwyddyn.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cRydym yn gwybod bod un o bob chwe achos o ganser y fron yn cael ei ddiagnosio mewn menywod sydd o dan oedran sgrinio, ac i fenywod du, yr oedran cyfartalog ar gyfer diagnosis yw 46, bedair blynedd cyn i sgrinio ddechrau hyd yn oed. Yn ogystal \u00e2 hyn, rydym yn gwybod bod 1 o bob 3 menyw iau \u00e2 chanser y fron wedi cael eu hanwybyddu i ddechrau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth gyflwyno symptomau gan eu bod yn cael eu hystyried yn \u2018rhy ifanc\u2019.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cYn CoppaFeel!, ein cenhadaeth yw annog pobl i wirio eu brest yn rheolaidd, ymgyrchu dros system sgrinio sy\u2019n ystyried risg, nid oedran yn unig, a dros ymchwil mwy ystyrlon i wella canlyniadau canser y fron i bobl iau.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Dywedodd y Fonesig Laura Lee DBE, Prif Weithredwr Maggie\u2019s:<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cRydym yn ddiolchgar iawn i Claire am rannu ei phrofiad o ganser mor agored a gonest drwy\u2019r ffilm hon. Mae diagnosis o ganser yn effeithio ar bob rhan o fywyd person, a thrwy siarad am ei chanser, bydd Claire yn helpu pobl eraill y mae canser yn effeithio arnynt i deimlo\u2019n llai unig ac yn eu hannog i geisio cefnogaeth pan fydd ei hangen arnynt fwyaf.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Am ragor o wybodaeth am ganser y fron, gan gynnwys canllawiau ar wirio eich bronnau neu eich brest, adnabod yr arwyddion a\u2019r symptomau, a chael mynediad at driniaeth a chefnogaeth, ewch i:<\/span><\/p>\n<p><b>Breast Cancer Now:<\/b><a href=\"https:\/\/breastcancernow.org\/\"> <span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/breastcancernow.org\/<\/span><\/a><\/p>\n<p><b>CoppaFeel!:<\/b><a href=\"https:\/\/coppafeel.org\/\"> <span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/coppafeel.org\/<\/span><\/a><\/p>\n<p><b>Maggie\u2019s:<\/b><a href=\"https:\/\/www.maggies.org\/\"> <span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/www.maggies.org\/<\/span><\/a><\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-8014c2b elementor-widget elementor-widget-image\" data-id=\"8014c2b\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"image.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<figure class=\"wp-caption\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"683\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/C58A9573-EDIT-683x1024.jpg\" class=\"attachment-large size-large wp-image-9207\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/C58A9573-EDIT-683x1024.jpg 683w, https:\/\/www.clairehughes.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/C58A9573-EDIT-200x300.jpg 200w, https:\/\/www.clairehughes.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/C58A9573-EDIT-768x1152.jpg 768w, https:\/\/www.clairehughes.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/C58A9573-EDIT-1024x1536.jpg 1024w, https:\/\/www.clairehughes.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/C58A9573-EDIT-1365x2048.jpg 1365w, https:\/\/www.clairehughes.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/C58A9573-EDIT-scaled.jpg 1707w\" sizes=\"auto, (max-width: 683px) 100vw, 683px\" \/>\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<figcaption class=\"widget-image-caption wp-caption-text\">Dychwelodd Claire i San Steffan ym mis Mai eleni, ar \u00f4l cael saith mis o driniaeth, gan gynnwys sawl llawdriniaeth, cemotherapi a radiotherapi.<\/figcaption>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/figure>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-e12bc66 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"e12bc66\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae tua 60,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser y fron yn y DU bob blwyddyn. Mae Claire yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiad yn helpu mwy o bobl i ddod yn gyfarwydd ag arwyddion a symptomau\u2019r clefyd, gwneud gwirio eu bronnau neu eu brest yn arfer rheolaidd a cheisio cyngor meddygol os byddant yn sylwi ar newid.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r rhaglen ddogfen wedi derbyn cefnogaeth gan Breast Cancer Now, CoppaFeel! a Maggie\u2019s, sy\u2019n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl y mae canser y fron a mathau eraill o ganser yn effeithio arnynt.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Dywedodd Claire Rowney, Prif Weithredwr Breast Cancer Now:<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cRydym mor ddiolchgar i Claire am rannu ei phrofiad personol o ganser y fron mor agored drwy\u2019r ffilm hon ac am dynnu sylw at bwysigrwydd gwirio\u2019r bronnau a diagnosis cynnar.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cRydym yn gwybod bod pobl fel Claire sy\u2019n rhannu eu straeon yn helpu i normaleiddio trafodaethau am iechyd y fron a phwysigrwydd gwirio\u2019r bronnau.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Dywedodd Natalie Haskell, Prif Weithredwr CoppaFeel!:<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cRydym yn ddiolchgar iawn i Claire am rannu ei stori ac am dynnu sylw at y ffaith bod miloedd o fenywod iau yn cael diagnosis o ganser y fron bob blwyddyn.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cRydym yn gwybod bod un o bob chwe achos o ganser y fron yn cael ei ddiagnosio mewn menywod sydd o dan oedran sgrinio, ac i fenywod du, yr oedran cyfartalog ar gyfer diagnosis yw 46, bedair blynedd cyn i sgrinio ddechrau hyd yn oed. Yn ogystal \u00e2 hyn, rydym yn gwybod bod 1 o bob 3 menyw iau \u00e2 chanser y fron wedi cael eu hanwybyddu i ddechrau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth gyflwyno symptomau gan eu bod yn cael eu hystyried yn \u2018rhy ifanc\u2019.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cYn CoppaFeel!, ein cenhadaeth yw annog pobl i wirio eu brest yn rheolaidd, ymgyrchu dros system sgrinio sy\u2019n ystyried risg, nid oedran yn unig, a dros ymchwil mwy ystyrlon i wella canlyniadau canser y fron i bobl iau.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Dywedodd y Fonesig Laura Lee DBE, Prif Weithredwr Maggie\u2019s:<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cRydym yn ddiolchgar iawn i Claire am rannu ei phrofiad o ganser mor agored a gonest drwy\u2019r ffilm hon. Mae diagnosis o ganser yn effeithio ar bob rhan o fywyd person, a thrwy siarad am ei chanser, bydd Claire yn helpu pobl eraill y mae canser yn effeithio arnynt i deimlo\u2019n llai unig ac yn eu hannog i geisio cefnogaeth pan fydd ei hangen arnynt fwyaf.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Am ragor o wybodaeth am ganser y fron, gan gynnwys canllawiau ar wirio eich bronnau neu eich brest, adnabod yr arwyddion a\u2019r symptomau, a chael mynediad at driniaeth a chefnogaeth, ewch i:<\/span><\/p>\n<p><b>Breast Cancer Now:<\/b><a href=\"https:\/\/breastcancernow.org\/\"> <span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/breastcancernow.org\/<\/span><\/a><\/p>\n<p><b>CoppaFeel!:<\/b><a href=\"https:\/\/coppafeel.org\/\"> <span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/coppafeel.org\/<\/span><\/a><\/p>\n<p><b>Maggie\u2019s:<\/b><a href=\"https:\/\/www.maggies.org\/\"> <span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/www.maggies.org\/<\/span><\/a><\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-7c941e1 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"7c941e1\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p><em>Hyrwyddwyd gan Claire Hughes yn Nh\u0177\u2019r Cyffredin, Llundain, SW1A 0AA. Telir am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS, ac ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu\u2019r wefan hon.<\/em><\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Claire Hughes AS wedi rhyddhau rhaglen ddogfen hynod bersonol am ei phrofiad o ganser y fron, yn y gobaith y bydd rhannu ei stori yn annog mwy o bobl i wirio eu brest a cheisio cyngor meddygol os nad yw rhywbeth yn teimlo\u2019n iawn. Mae\u2019r ffilm wyth munud yn dilyn Claire wrth iddi fyfyrio [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":9211,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"none","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-9215","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-healthcare"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9215","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9215"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9215\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9230,"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9215\/revisions\/9230"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9211"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9215"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9215"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clairehughes.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9215"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}