Article published: 25 Sep 2025

£20m o gyllid gan Lywodraeth y DU wedi’i sicrhau ar gyfer cymunedau yng Nghonwy

Bydd pobl leol yn gwneud penderfyniadau ar sut y caiff y cyllid ei ddefnyddio i drawsnewid canol trefi a phentrefi, achub cyfleusterau lleol a meithrin balchder yn eu hardal.

Bydd trigolion ledled Conwy yn gallu achub eu hoff dafarn­da­i neu wella mannau yn eu hardal sydd angen sylw drwy’r rhaglen Balchder yn ein Bro a lansiwyd gan y Prif Weinidog heddiw.

Yn ogystal â’r buddsoddiad hwn, bydd dull newydd chwyldroadol o gyflawni’r cyllid, gyda chymunedau yng Nghonwy yn cael y gair olaf ar ble a sut y caiff yr arian ei wario i lanhau eu cymunedau a rhoi bywyd newydd i’w strydoedd mawr.

Bydd yr arian hwn yn grymuso pobl leol i fynd i’r afael â’r materion sy’n niweidio eu cymunedau – boed hynny’n lanhau graffiti neu fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – yn ogystal â chyllid i gefnogi cydlyniant cymunedol.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael gwahoddiad i enwebu’r cymunedau i gymryd rhan yn y rhaglen Balchder yn ein Bro, i’w chymeradwyo gan Lywodraeth y DU.

Bydd hwn yn broses gynhwysol lle bydd yr awdurdod lleol yn ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol i sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd yn briodol â chynlluniau presennol megis cynlluniau lleoli neu’r fenter Trawsnewid Trefi.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

“Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio’n llwyr ar hybu twf economaidd a darparu cyfleoedd i bawb, ac mae’r rhaglen Balchder yn ein Bro yn rhan allweddol o’n gwaith i gyflawni hynny. 

“Bydd mwy na £200 miliwn o fuddsoddiad uniongyrchol newydd yn arwain at welliannau mewn cymunedau ledled Cymru, gan eu gwneud yn lefydd hyd yn oed gwell i fyw a gweithio.

“Rydym am gydweithio â’n holl bartneriaid i sicrhau gwelliannau sy’n cyfrif i bobl leol ac sy’n darparu swyddi a ffyniant.”

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Claire Hughes AS dros Fangor Aberconwy:

“Rwy’n falch iawn bod Conwy wedi’i ddewis fel un o’r lleoliadau newydd yng Nghymru i elwa o’r cyllid Balchder yn ein Bro. Pan gefais fy ethol y llynedd, dywedais y byddwn i’n bachu ar bob cyfle i sicrhau bod ein cymunedau’n cael y cydnabyddiaeth – a’r cyllid – y maen nhw’n ei haeddu. A dyna’n union rydw i wedi’i wneud.

“Yn ogystal â’r cyllid hirdymor hwn – £20 miliwn dros 10 mlynedd – mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd ar fin derbyn £1.5 miliwn o gyllid cyfalaf i wella mannau cyhoeddus. Boed hynny’n golygu ailagor toiledau, gosod mwy o finiau sbwriel i helpu glanhau ein strydoedd, neu adnewyddu canolfannau hamdden sydd wedi dirywio – rwy’n gwybod bod y rhain yn faterion sy’n bwysig i drigolion lleol, a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud ar sut caiff yr arian hwn ei wario.”

Dywedodd AS Gogledd Clwyd, Gill German:

“Rwy’n falch iawn bod Conwy ar fin derbyn £21.5 miliwn fel rhan o raglen Balchder yn ein Bro a’r gronfa effaith gan Lywodraeth y DU. Ers y diwrnod cyntaf i mi gael fy ethol, rydw i wedi bod yn gwneud achos cryf i Lywodraeth y DU dros fwy o gyllid i helpu manteisio i’r eithaf ar ein hardal hardd. Ym mis Mawrth eleni, llwyddais i sicrhau £20 miliwn ar gyfer y Rhyl drwy’r gronfa Cynllun ar gyfer Cymdogaethau, ac rydw i wrth fy modd fy mod nawr yn dod â £20 miliwn+ arall i Sir Conwy.

“Ar ben y buddsoddiadau sydd eisoes wedi’u gwneud gan Lywodraeth Lafur Cymru, bydd y cyllid hwn yn gwneud Conwy yn ardal hyd yn oed gwell i ymweld ag ef ac i weithio, drwy wella ein strydoedd mawr, canol trefi a’n cyfleusterau cymunedol. Gallwn ddewis ei wario ar ystod eang o bethau gwahanol, ac mae pob syniad yn cael croeso. Dyma gyfle i ni ddangos beth all pobl Conwy ei gyflawni, a byddaf i’n parhau i wneud achos cryf dros yr hyn mae ein cymdogaethau ei angen, gan sicrhau bod lleisiau’r gymuned wrth galon y penderfyniadau.”

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content