Article published: 05 Feb 2025

Aelod Seneddol Bangor Aberconwy yn galw am i dystysgrifau colli baban fod ar gael i rieni yng Nghymru

Mae Claire Hughes, yr Aelod Seneddol Llafur dros Bangor Aberconwy, wedi galw am i dystysgrifau colli baban, sy’n cydnabod colli baban cyn 24 wythnos o feichiogrwydd, fod ar gael i rieni yng Nghymru.

Fe lansiwyd tystysgrifau colli baban yn gyntaf ym mis Chwefror 2024, ond roeddent ar gael i rai oedd wedi profi colled ers mis Medi 2018 yn unig. Ers mis Hydref y llynedd, mae’r Llywodraeth wedi ehangu’r gwasanaeth rhad ac am ddim heb unrhyw ôl-ddyddio, gan alluogi rhieni sydd wedi profi colled beichiogrwydd hanesyddol neu golled yn y dyfodol i wneud cais. Hyd yn hyn, cyhoeddwyd mwy na 50,000 o dystysgrifau. Er hynny, ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth ar gael i rieni sy’n byw yn Lloegr yn unig.

Dywedodd Claire Hughes AS: “Ers y llynedd, mae rhieni yn Lloegr sydd wedi profi’r tor-calon o golli beichiogrwydd wedi gallu gwneud cais am dystysgrif sy’n cydnabod eu colled yn swyddogol.

“Gall tystysgrifau colli baban gynnig ffordd ymlaen i rieni sy’n galaru i gofio ac i ddathlu eu babanod – ond nid ydynt ar gael yng Nghymru.

“Yn dilyn lansiad cynllun gwirfoddol yn Lloegr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, daethpwyd i gytundeb mewn egwyddor gyda’r Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Ysgrifenydd Gwladol blaenorol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymestyn y cynllun i Gymru. Yn anffodus, bu saib yn y trafodaethau wrth arwain at, ac yn ystod, cyfnod yr Etholiad Cyffredinol.

“Rwy’n dawel fy meddwl bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru’n dymuno ehangu’r cynllun i Gymru, ac mae’r gwaith i gyflawni hyn ar y gweill, ond nid yw’n weithredol eto.

“Addewais i deuluoedd lleol sydd wedi cysylltu â mi ynghylch y mater hwn y byddwn yn pwyso ar y Llywodraeth i weithredu, felly gofynnais i Arweinydd y Tŷ Cyffredin i fy helpu i sicrhau cyfarfod gyda’r gweinidogion perthnasol.

“Mae’n hanfodol bod rhieni sy’n galaru’n cael yr opsiwn i gydnabod bodolaeth eu babanod ac faint maen nhw o bwys – gwnaf beth bynnag y gallaf i wthio am gynnydd, ac i wneud tystysgrifau colli baban ar gael yng Nghymru.”

Mewn ymateb i’w chwestiwn yn y Senedd, dywedodd Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Lucy Powell: “Mae tystysgrifau colli baban yn Lloegr wedi rhoi cydnabyddiaeth a chysur i lawer o deuluoedd sydd wedi profi’r brofedigaeth o golli baban.

“Ac rwy’n meddwl bod ei galwadau am i hyd gael ei ymestyn i Gymru yn hollol gywir, as fe wnaf yn siŵr ei bod cael cysylltiad gyda’r gweinidog i’w drafod ymhellach.”

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content