Mae fy ngwreiddiau yn ymestyn yn ddwfn yn yr etholaeth hon. Cefais fy ngeni ym Mangor ond fy magu ym Mhenmaenmawr tra’n mynychu’r ysgol leol, sef Ysgol Aberconwy.
Ar ol cwblhau fy Lefelau A, symudais i lawr i Gaerdydd ble astudiais radd mewn Newyddiaduraeth cyn mynd ymlaen i weithio yn y maes technoleg. Gweithiais i gwmnïau cychwynnol yn Lundain am bron i ddegawd gan gymryd rhan blaengar o’u datblygu gyda rhai yn dal i dyfu hyd heddiw. Treuliais gyfnod yng Ngogledd Sbaen cyn dychwelyd adref i Ogledd Cymru er mwyn dechrau gwaith fel cynghorydd lleol.
Wrth weithio fel cynghorydd, gwelais bod cymunedau ym Mangor Aberconwy yn erfyn am newid