Article published: 05 Mar 2025

AS Bangor Aberconwy yn Croesawu £1.6 Biliwn yn Ychwanegol Mewn Cyllid i Gymru

Mae Claire Hughes, yr AS dros Fangor Aberconwy, wedi croesawu Cyllideb Llywodraeth Cymru, sy’n darparu £1.6 biliwn yn ychwanegol i Gymru, gan atgyfnerthu yr effaith bositif o gael dwy lywodraeth Lafur yn gweithio gyda’i gilydd.

Dywedodd Claire Hughes AS, “Bydd y cyllid ychwanegol yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn helpu i wella gofal iechyd, addysg, trafnidiaeth, a darpariaethau llywodraeth leol ar draws Cymru.”

Mae’r dyraniadau penodol yn y gyllideb yn cynnwys:

  • Mwy na £600m yn ychwanegol ar gyfer y GIG a gofal cymdeithasol, gan gefnogi ymdrechion i leihau amseroedd aros a gwella gwasanaethau iechyd meddwl a iechyd merched
  • £50m yn ychwanegol i ehangu’r gofal plant Dechrau’n Deg ar gyfer plant dwy oed ar draws Cymru a chodi’r raddfa i £6.40 yr awr
  • £81m yn ychwanegol i adeiladu tai cymdeithasol i fynd i’r afael â digartrefedd
  • Hwb o fwy na £100m i addysg
  • £15m i ariannu cynllun pris tocyn bws sengl o £1 ar gyfer pobl ifanc dan 21 oed
  • Cyllid i greu cynllun atgyweirio ffyrdd a phalmentydd awdurdodau lleol gwerth £120m
  • £25m ar gyfer cronfa gwella ffyrdd i wella’r rhwydwaith ffyrdd strategol fydd yn ein galluogi i wella 100 cilomedr o’r rhwydwaith a lleihau ac atal tyllau yn ein ffyrdd
  • Cefnogaeth o £335m i gefnogi busnesau, yn cynnwys chweched flwyddyn o ryddhad ardrethi ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch
  • Isafswm gwarantedig o 3.8% yn fwy yn y setliad llywodraeth leol

Ychwanegodd Claire Hughes AM, “Ni allwn ddadwneud yr holl ddifrod a achoswyd dros y 14 mlynedd diwethaf mewn blwyddyn. Ond dengys y Gyllideb Llywodraeth Cymru yma rym dwy Lywodraeth Lafur, sy’n rhannu’r un gwerthoedd, yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu ar gyfer pobl Cymru.

“Mae’r gyllideb hon yn darparu £1.6bn yn ychwanegol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus – bydd pob adran yn derbyn cynnydd mewn cyllid. Fel yr Aelod Seneddol dros Fangor Aberconwy, byddaf yn parhau i ddefnyddio fy llais i sicrhau bod Gogledd Cymru yn derbyn ei siâr haeddiannol.”

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content