Article published: 06 Feb 2025

AS Bangor Aberconwy yn Croesawu Gweithredu gan y Llywodraeth i Fynd i’r Afael â Throseddu yng Nghanol Trefi

Mae Claire Hughes, yr Aelod Seneddol Llafur dros Bangor Aberconwy, wedi croesawu ymrwymiadau’r Llywodraeth i fynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol trefi, wedi iddi godi materion a wynebir gan fusnesau yn Llandudno gyda’r Prif Weinidog, Sir Keir Starmer.

Yn y sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y senedd heddiw (5 Chwefror), tynnodd Ms Hughes sylw at y problemau a wynebir gan fusnesau sy’n delio gyda chynnydd mewn dwyn o siopau. Croesawodd y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU o £200m yn ychwanegol i hybu plismona cymdogaeth, gan ofyn pa weithredu pellach mae’r Llywodraeth yn ei gymryd i fynd i’r afael â throseddu manwerthu.

Dywedodd Claire Hughes AS: “Mae Llandudno yn dref glan y môr brydferth ac yn lle hyfryd i ymweld, ond mae llawer o fusnesau yn cael trafferth gyda’r cynnydd mewn dwyn o siopau. Mewn rhai achosion, mae lladron yn dwyn yng ngolwg y staff oherywdd nad ydynt yn ofni’r canlyniadau.

“Croesawn yn fawr yr hwb ariannol ar gyfer plismona cymdogaeth, ond a allai’r Prif Weinidog ddweud wrth fy etholwyr beth yn fwy mae’r Llywodraeth yma yn ei wneud i fynd i’r afael â throseddu manwerthu ac i atal troseddwyr mynych?”

Dywedodd y Prif Weinidog Sir Keir Starmer: “Am yn llawer rhy hir, mae troseddau megis dwyn o siopau wedi cael eu diystyrru fel ‘lefel isel’. Nid yw hyn yn iawn; mae troseddau o’r fath yn ddinistriol. Gadawodd y blaid Geidwadol ni gyda throseddu’n cynyddu ac wedi dweud wrth yr heddlu, i bob pwrpas, i anwybyddu dwyn o siopau am werth llai na £200 o nwyddau. Rydym wedi cael gwared o’r siarter dwyn o siopau honno, ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cymryd gafael ble roeddent hwy wedi colli rheolaeth.”

Daeth y cwestiwn hwn wedi i Ms Hughes ymuno â Swyddogion Cefnogaeth Cymunedol yr Heddlu i gerdded o gwmpas Llandudno i ddysgu mwy am yr heriau maent yn eu hwynebu.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn yr ymateb gan y Prif Weinidog, dywedodd Ms Hughes: “Heddiw, gofynnais i’r Prif Weinidog beth yn fwy mae’r Llywodraeth yma yn ei wneud i fynd i’r afael â dwyn o siopau mewn trefi fel Llandudno.

“Roeddwn yn falch o glywed bod y rheol bresennol sy’n gweld lladradau o dan £200 yn cael eu trin yn llai difrifol yn mynd i gael ei dileu. Mae hyn ar ben y cyhoeddiad diweddar o gyllid ychwanegol ar gyfer heddlu cymdogaeth.

“Fel y dywedais o’r blaen – mae llawer i’w wneud i adfer hyder wedi 14 mlynedd o lymder a diffyg gweithredu. Mae mynd i’r afael â throseddu yng nghanol trefi a dwyn o siopau yn flaenoriaeth uchel i’r llywodraeth yma, a byddaf yn parhau i wthio am weithredu fel eich AS lleol.”

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content