Diolch i gydweithredu rhwng Adra Tai Cyf, Cyngor Gwynedd, a Tai Gogledd Cymru, mae’r prosiect wedi trawsffurfio adeilad adfeiliedig ar Stryd Fawr Bangor yn 12 fflat modern, ynni-effeithlon.
Wedi ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, bydd y rhain yn darparu llety diogel i bobl sy’n ddigartref ar hyn o bryd. Y nôd yw i helpu’r rhai hynny sy’n ddigartref ar hyn o bryd i addasu ac i baratoi ar gyfer cymryd tenantiaeth mewn lle arall, gyda chefnogaeth arbenigol wedi’i darparu gan North Wales Housing.
Oherwydd nifer y teuluoedd sy’n byw mewn llety dros dro yn ein hardal a’r pwysau enfawr mae hyn yn ei osod ar gyllidebau awdurdodau lleol – yn ogystal â’r niferoedd eiddo sy’n segur – mae hon yn fenter i’w chroesawu’n fawr ac yn esiampl gwych o bartneriaeth yn gweithio.
Diolch i Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), Nia Jeffreys (Arweinydd), y rheolwyr a’r staff yn Adra, a’r Cynghorwyr Cyngor Gwynedd am fy nangos o gwmpas.
Edrychaf ymlaen i ddychwelyd i ddarganfod sut mae’r preswylwyr newydd yn dod ymlaen yn y misoedd sydd i ddod.
