Article published: 10 Feb 2025

Cerdded ar hyd Stryd Fawr Bangor gyda Heddlu Gogledd Cymru

Roeddwn yn ôl ar Stryd Fawr Bangor gyda’r Prif Arolygydd Steve Pawson o Fangor heddiw. Roeddem yno i drafod rhai o brif bryderon ein cymuned, yn cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnydd cyffuriau a dwyn o siopau, ac er mwyn i mi dderbyn diweddariad ar sut mae’r heddlu lleol yn delio â’r materion hyn.

Y tro diwethaf roeddwn yn trafod troseddu ar Stryd Fawr Bangor oedd gydag Yvette Cooper AS, ychydig cyn yr etholiad. Roeddwn wedi dod â hi yma i weld y problemau roedd busnesau yn eu hwynebu yng nghanol y ddinas. Felly mae’n wych ei gweld yn bwrw ymlaen â’r gwaith nawr mae hi’n Ysgrifennydd Cartref!

Yn ogystal â’r cyhoeddiad diweddar o 13,000 o heddlu cymdogaeth ychwanegol ar gyfer Cymru a Lloegr, bydd y Llywodraeth Llafur yma, yn fuan, yn cyflwyno Bil Heddlua a Throsedd newydd gyda mesurau llawer llymach i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a dwyn o siopau. Bydd y rhain yn cynnwys:

– ‘Gorchmynion Parch’ newydd i ddelio â throseddwyr mynych

– Cael gwared o’r trothwy £200 ar gyfer lladradau ‘lefel-isel’

– Creu trosedd arunigol o ymosod ar weithiwr siop

Gwyddom na fydd newid yn digwydd dros nos. Bydd mynd i’r afael â throseddu yng nghanol trefi angen i fusnesau, llywodraeth a’r heddlu i weithio gyda’i gilydd. Ond mae’r Llywodraeth yma’n gweithredu, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud fy rhan fel eich AS lleol.

Diolch yn fawr i’r Prif Arolygydd am eich amser heddiw, ac i’r holl heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu sy’n gweithio’n galed iawn mewn amgylchiadau heriol i gadw’n cymunedau’n ddiogel.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch unrhyw rai o’r materion a drafodwyd yn y post hwn, neu’n dymuno rhoi adborth cyn y Bil Heddlua a Throsedd, cysylltwch â mi. Gallwch fy e-bostio yn Claire.hughes.mp@parliament.uk neu galw fy swyddfa ar 01248 660797.

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content