Neithiwr, yn y senedd, lansiais fy ymgyrch i lanhau ein ffyrdd ac i amddiffyn ein bywyd gwyllt.
Mae taflu sbwriel eisoes yn drosedd yng Nghymru a Lloegr – ond mae’n amlwg nad yw’r cyfreithiau presennol yn gweithio.
Dyna pam rwy’n galw am gosbau llymach i bobl sy’n cael eu dal yn taflu sbwriel o geir, ac i wneud gwell defnydd o dechnoleg er mwyn gorfodi.
