Roedd yn bleser pur gwobrwyo Andrew ac Alice Lui o’r Garden Hotel and Cantonese Restaurant gyda fy Ngwobr Arwr Cymunedol cyntaf.
Mae Andrew ac Alice wedi gwneud cymaint i’r gymuned leol ym Mangor ers sefydlu eu busnes yn ôl ym 1985. Trwy drawsnewid gwesty blinedig i mewn i fusnes lleol poblogaidd a ffyniannus, mae’r teulu Lui wastad wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn.
Mae eu bwffes Blwyddyn Newydd Tsieineaidd wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau dros y blynyddoedd, yn cynnwys Tŷ Gobaith, Hosbis Dewi Sant, Barnardo’s Cymru, a’r St. John’s Ambulance.
Cafodd cannoedd o blant lleol y cyfle i ddysgu am draddodiadau a diwylliant Tsieineaidd, diolch i’w hymweliadau rheolaidd i ysgolion a’u dawnsfeydd llewod traddodiadol.
Yna, yn ystod y pandemig pan roedd eu bwyty wedi cau, coginiodd a rhoddodd y teulu dros 800 o brydau bwyd ffres i staff Ysbyty Gwynedd.
Diolch yn fawr iawn, Andrew ac Alice am bopeth rydych wedi ei wneud i’n cymuned. Mae Bangor mor lwcus i’ch cael chi!
xiè xie 谢谢
Os hoffech enwebu rhywun sy’n mynd y tu hwnt i’r gofyn i helpu eraill yn ein cymuned, os gwelwch yn dda, e-bostiwch fi yn claire.hughes.mp@parliament.uk gan amlinellu pam eu bod yn haeddu cael eu cydnabod.
