A wyddoch chi bod gyrwyr gwrywaidd ifanc bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau traffig ar y ffyrdd?
Neu fod pobl ifanc 16-24 yng Nghymru yn cyfrif am 11% o’r boblogaeth, ond am 22% o golledion?
Digwyddodd bron i hanner yr holl ddamweiniau yn cynnwys gyrwyr ifanc a arweiniodd i anafiadau difrifol neu farwolaeth yn y Deyrnas Unedig rhwng 2019 a 2023 ar ffyrdd gwledig.
Mae’r ffigyrau’n ddychrynllyd. Ond ni ddylem byth anghofio, y tu ôl i bob ystadegyn, bod bywyd wedi ei golli’n rhy fuan. Teulu wedi ei chwalu.
Fel bywyd Olivia Alkir, 17 oed, a laddwyd mewn damwain traffig drychinebus ar y ffordd ger Rhuthun 2019, ac fe rannais ei stori yn y Senedd y mis diwethaf.
Yn ystod y drafodaeth am Ddiogelwch ar y Ffyrdd i Yrwyr Gwledig, gofynnais i’r Gweinidog i wneud popeth o fewn ei gallu yn ei hymgais i gadw pobl ifanc yn ddiogel ar ein ffyrdd; i archwilio i’r defnydd pellach o dechnoleg megis telemateg, ac i ddysgu gan wledydd eraill sydd wedi gweithredu trefn wahanol ar gyfer pobl ifanc.
Rwy’n falch bod y Llywodraeth wedi dweud y bydd yn datblygu Strategaeth Diogelwch Ffyrdd newydd – y gyntaf ers dros ddegawd, ond mae llawer mwy i’w wneud.
Mae Jo, mam Olivia, am i’w stori gael ei rhannu mewn ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig. Er mwyn dangos i bobl ifanc y canlyniadau posibl o yrru’n beryglus, ac i wneud iddynt feddwl ddwywaith cyn mynd y tu ôl i’r olwyn.
Rwyf wedi ymrwymo i ofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ac i Weinidogion Addysg Cymru os allwn ni wneud i hyn ddigwydd. Rwy’n mawr obeithio y gallwn.
