Cafodd dinas hynaf Cymru ei dathlu yng nghalon San Steffan heddiw. Cynhaliodd Claire Hughes, yr AS dros Bangor Aberconwy, ‘Ddiwrnod Bangor’ ar y dydd mae’r ddinas yn dathlu ei sefydlydd, Deiniol Sant.
Daeth y digwyddiad arbennig, rhan o’r raglen ehangach Bangor 1500 sy’n digwydd eleni, ag AS, arweinwyr busnes o ar draws Cymru, sefydliadau, grwpiau cymunedol a chynrychiolwyr lleol o Fangor at ei gilydd.
Rhoddodd y diwrnod sylw ar dalent presennol y ddinas a’i dyfodol uchelgeisiol, yn ogystal â’i hanes balch a’i threftadaeth gyfoethog.
Roedd y mynychwyr yn cynnwys Is-Ganghellor Prifysgol Bangor a nifer o adrannau’r brifysgol: Ysgol Gwyddorau Eigion, Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol a’r Ysgol Feddygol Gogledd Cymru newydd. Bu’r rhain, yn ogystal â Môr Ni Gwynedd, Gardd Fotaneg Treborth, BBC Bangor, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Grŵp Llandrillo-Menai, a Chyngor Dinas Bangor yn cynnal stondinau, gan rannu eu gwaith arloesol a’r cyfleoedd maent yn eu harwain yn eu meysydd ac ar gyfer y gymuned leol.
Teithiodd Maer Bangor, perchnogion busnes lleol, cyn-fyfyrwyr y Brifysgol, Ffrindiau Pier Garth Bangor, a llawer mwy o sefydliadau a grwpiau diwylliannol lleol i Lundain, i ddathlu’r ddinas, i gysylltu gyda’i gilydd ac i drafod beth sydd i ddod nesaf ym Mangor.
Dywedodd Claire Hughes, yr Aelod Seneddol dros Fangor Aberconwy:
“Rwy’n brwydro’n galed i gael y cydnabyddiaeth – a’r cyllid – mae Bangor yn ei haeddu. Mae’r penblwydd hwn yn gyfle perffaith i ddangos beth sy’n gwneud ein dinas mor arbennig, o’i gwreiddiau hanesyddol dwfn i’w chymuned a’i sefydliadau bywiog.
“Cawsom ystod ardderchog o leisiau yn yr ystafell i ddweud wrth y rhai yn San Steffan beth sydd mor wych am Fangor. Ond nid yw hyn yn ymwneud ag edrych yn ôl yn unig – mae’n ymwneud â datgloi ei photensial ac adeiladu gwell dyfodol i Fangor.”
Dywedodd Yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
“Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan annatod o stori dinas Bangor ers sefydlu’r Brifysgol dros 140 mlynedd yn ôl. Trwy addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf, mae Brifysgol wedi trawsnewid bywydau, gyrru arloesedd, ac wedi gwneud cyfraniadau hanfodol i dwf rhanbarthol a chynhyrchiant cenedlaethol. Rydym yn falch, ynghyd â’n rhanddeiliaid, o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn sy’n dathlu treftadaeth, hanes, iaith a diwylliant cyfoethog y Ddinas wrth iddi ddathlu 1500 mlynedd ers ei sefydlu.”
