Bydd siopwyr a busnesau ym Mangor a Llandudno yn gweld patrôliau’r heddlu wedi cynyddu a chamau lleol i fynd i’r afael â throseddau canol tref yr haf hwn, wrth i’r Ysgrifennydd Cartref lansio ymgyrch fawr i gefnogi strydoedd mawr mwy diogel.
Mae’r ymgyrch- a fydd yn gweld swyddogion yn bresennol yng nghanol trefi yn ystod yr amseroedd prysuraf- wedi cael ei chroesawu heddiw gan Claire Hughes, AS Llafur dros Fangor Aberconwy.
Mae mwy na 500 o drefi wedi’u cofrestru ar gyfer haf ‘Safer Streets’ yr Ysgrifennydd Cartref. O fewn etholaeth Bangor Aberconwy, bydd hynny’n cynnwys Stryd Fawr Bangor a Llandudno.
Bydd y trefi hyn yn gweld mwy o batrôliau gan yr heddlu ynghyd â chamau lleol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd presenoldeb mwy amlwg gan yr heddlu yn mynd law yn llaw â chamau gorfodi a gwaith atal cryfach gan gynghorau a phartneriaid lleol eraill hefyd.
Mae Comisiynwyr Heddlu lleol wedi llunio cynlluniau gweithredu mewn partneriaeth â pherchnogion busnesau a chynghorau lleol gyda’r nod o sicrhau bod canol trefi yn dod yn lefydd bywiog lle mae pobl eisiau byw, gweithio a threulio amser.
Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys mwy o heddlu gweladwy yng nghanol trefi ac ehangu’r defnydd o bwerau gorfodi wedi’u targedu at bobl sy’n creu trafferthion- gan gynnwys gwahardd troseddwyr o’r mannau problemus.
Difethwyd heddlu cymdogaeth ar ôl 14 o flynyddoedd o dan y Ceidwadwyr. Hannerwyd nifer y PCSOs o dan eu harweinyddiaeth, tra bod nifer yr Heddlu Arbennig wedi gostwng o ddwy ran o dair.
Mae’r ymgyrch hon gan ein Llywodraeth Lafur yn rhan o’u cynllun ar gyfer Newid. Bydd hyn yn rhoi 13,000 o heddlu ychwanegol mewn swyddi cymdogaeth dros gyfnod y Senedd hon, wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad o £200 miliwn yn y flwyddyn gyntaf.
I ychwanegu, mae’r Swyddfa Gartref, ochr yn ochr â’r heddlu, yn lansio Strategaeth ‘Tackling Retail Crime Together.’ Bydd hyn yn defnyddio data ar y cyd, nid yn unig i darfu ar gangiau, ond ar bob math o droseddwyr.
Mae creu canol trefi bywiog lle gall busnesau a chymunedau ffynnu yn mynd law yn llaw â nod y llywodraeth i dyfu’r economi, codi safonau byw, a chefnogi cymunedau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper:
“Canol ein trefi a’n strydoedd mawr yw calon ein cymunedau, ac mae gan drigolion a busnesau’r hawl i deimlo’n ddiogel yno. O dan y llywodraeth ddiwethaf, gwelwyd cynnydd mewn lladradau, troseddau stryd ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a wnaeth i ormod o ganol trefi deimlo’n ddi-nod ac yn wag.
“Mae’n bryd troi hyn o gwmpas, a dyna pam rwyf wedi galw ar heddluoedd a chynghorau i weithio gyda’i gilydd i ddarparu ymgyrch haf yn erbyn troseddau canol tref. Mae’n rhaid anfon neges glir at y rhai sy’n dod â gofid i’n trefi na fydd eu troseddau bellach yn mynd heb gosb.
“Mae’r ffaith bod Bangor a Llandudno wedi cofrestru yn dangos cryfder y teimlad lleol ar y mater.
“Drwy ein Cenhadaeth Strydoedd Diogelach a’n cynllun ar gyfer Newid, bydd swyddogion yn weladwy unwaith eto ar ein strydoedd er mwyn diogelu ein trefi.”
Dywedodd Claire Hughes, AS Llafur dros Fangor Aberconwy:
“Dinistriodd y Torïaid heddlu cymdogaeth tra roedd troseddau fel lladrata allan o reolaeth, a chymunedau fel ein rhai ni oedd yn gorfod talu’r gost.
“Rwy’n croesawu’r ymgyrch hon, a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’m hetholwyr- gan gynnwys busnesau- ym Mangor Aberconwy. Mae pawb yn haeddu canol tref a strydoedd mawr sy’n ddiogel ac yn rhydd rhag unrhyw ladrata. Fel rhan o gynllun ar gyfer Newid y Llywodraeth hon, rydym am roi 13,000 o swyddogion heddlu cymdogaeth a PCSOs yn ôl ar ein strydoedd erbyn diwedd cyfnod y Senedd hon.”
