Cyhoeddiad i’w groesawu’n fawr gan ysgrifennydd DEFRA heddiw.
Tra mae polisi ffermio yng Nghymru yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru, gwyddom i gyd bod llawer o’r liferi sy’n effeithio ar broffidioldeb ffermydd yng Nghymru yn nwylo llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Felly mae’n newyddion da iawn bod y Farwnes Minette Bathers wedi ei phenodi i arwain adolygiad i fewn i broffidioldeb ffermydd – mater mae llawer o Aelodau Seneddol Cymru wedi lleisio eu pryderon amdano. Mae llawer ohonom wedi gwrando ar yr heriau a wynebir gan ffermwyr yn ein hetholaethau, ac wedi datgan pryder gwirioneddol ynghylch pa mor anodd yw hi i ffermwyr i redeg busnes cynaliadwy.
Mae Minette yn gwybod be ‘di be, ac ni fydd yn dal yn ôl rhag dweud y gwir wrth y rhai mewn grym. Rwy’n falch ei fod yn adolygiad 6 mis sy’n canolbwyntio ar weithredu hefyd, yn hytrach na rhywbeth sy’n mynd i gymryd blynyddoedd ac wedyn ddim ond yn eistedd ar silff – rhywbeth roedd y Llywodraeth diwethaf yn ymddangos yn awyddus i’w wneud!
Mae ein ffermwyr yn chwarae rhan hanfodol i fwydo ein gwlad ac amddiffyn yr amgylchedd. Nawr, fwy nag erioed, mae’n hanfodol ein bod yn edrych yn iawn ar y sector ac yn gweld beth ellir ei wneud i wella proffidioldeb ar gyfer y tymor hir.
