Mae Claire Hughes, o’r blaid Lafur, wedi croesawu gweithredu newydd llym ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu yng nghanol trefi i bobl Gogledd Cymru.
Yr wythnos hon, mae’r Llywodraeth Lafur wedi cyflwyno nifer o fesurau yn cynnwys Gorchmynion Parch newydd sbon a gweithredu yn erbyn dwyn o siopau, fel rhan o’i Bil Heddlua a Throseddu blaenllaw.
Bydd y Gorchmynion Parch – a addawyd ym maniffesto Llafur yn 2024, a ddarperir yn y ddeddfwriaeth newydd yma – yn galluogi gorfodi cyflym yn erbyn troseddwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych.
Mae Bil yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper hefyd yn cynnwys gweithredu ar ddwyn o siopau, yn cynnwys cyflwyno trosedd newydd o ymosod ar weithiwr manwerthu.
Bydd Llafur hefyd yn cael gwared o ‘siarter dwyn o siopau’ y Torïaid, cyfraith oedd yn di-flaenoriaethu dwyn nwyddau oedd o werth is na £200, rhywbeth mae manwerthwyr mewn trefi megis Llandudno wedi galw amdano dro ar ôl tro.
Yn 2023, cafodd y Gweinidog Plismona Ceidwadol Chris Philp ei wawdio pan anogodd aelodau o’r cyhoedd i wneud arestiad dinesydd ar y rhai hynny roeddent yn eu gweld yn dwyn o siopau.
Bydd y bil Llafur hefyd yn rhoi pwerau newydd i’r heddlu i fynd i mewn i eiddo heb warant, gan alluogi’r heddlu i chwilio ac i feddiannu yn sydyn eiddo sydd wedi ei ddwyn maent yn ei gredu sydd mewn lleoliad. Daw gweithrediad Llafur wedi i’r nifer o ladradau cipio (‘snatch thefts’) gyrraedd 85,000 ar draws Cymru a Lloegr y llynedd.
Cefnogir y mesurau newydd gan gynllun y llywodraeth i recriwtio 13,000 o swyddogion heddlu, swyddogion cefnogi cymunedol yr heddlu, a chwnstabliaid arbennig i mewn i rolau plismona cymdogaeth dros gyfnod y Senedd yma.
Dywedodd Claire Hughes, AS Llafur dros Fangor Aberconwy:
“Wedi pedair mlynedd ar ddeg o reolaeth y Ceidwadwyr, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn felltith ar ganol ein trefi. Bydd busnesau a thrigolion mewn llefydd fel Bangor a Llandudno yn croesawu yn fawr y gweithredu llym a gynhwysir ym mil Llafur. Boed hynny’n yfed ar y stryd, aflonyddu neu fandaliaeth ar y stryd fawr, neu feiciau oddi-ar y ffordd bygythiol, mae fy etholwyr wedi cael llond bol.
“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn erydu hyder a balchder ein cymunedau, yn tanseilio busnesau lleol ac yn gallu cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr. Bydd fy etholwyr yn croesawu cyflwyniad y Gorchmynion Parch newydd llym, ac ni all gweithredu’r Llywodraeth ar ddwyn o siopau ddod yn ddigon sydyn.”
“Mae’r Bil Heddlua a Throseddu blaenllaw yn gam hanfodol tuag at y strydoedd mwy diogel a addawyd yng Nghynllun ar Gyfer Newid y Llywodraeth yma.”
