Article published: 18 Feb 2025

Venue Cymru i dderbyn £10m i ysgogi twf yn y sector ddiwylliannol

Mae gweinidogion wedi cadarnhau bod Venue Cymru i dderbyn hwb ariannol o £10m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yng Nghyllideb yr Hydref, cymerodd y Canghellor y penderfyniad anodd i atal ymrwymiadau oedd heb eu hariannu roedd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol wedi eu gwneud fel rhan o’r Prosiectau Diwylliant a Chyfalaf Ffyniant Bro, gan roi’r prosiect hwn yn y fantol.

Ond, roedd y Llywodraeth yn glir y byddai’n ymgynghori gyda derbynwyr cyllid posibl cyn gwneud penderfyniad terfynol. Mae’r cyhoeddiad heddiw o £10m i Venue Cymru’n ganlyniad i’r ymgynghoriaeth yna.

Mae Venue Cymru yn rhan allweddol o gynnig diwylliannol Gogledd Cymru, gan ddenu ymwelwyr o bedwar ban y byd. Mae’r cyllid hwn wedi’i ddylunio i helpu i ysgogi twf economaidd yn Llandudno, gan ail-fuddsoddi arian i’r gymuned leol.

Bydd yr hwb ariannol o £10m yn uwchraddio’r ganolfan gelfyddydau fwyaf yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd, ac yn galluogi trawsnewidiad sydd fawr ei angen i’r adeilad.

Yn wahanol i’r ymrwymiadau heb eu hariannu a wnaed gan y Ceidwadwyr, mae’r cyhoeddiad hwn yn blaenoriaethu prosiectau diwylliannol pwysig tra hefyd yn amddiffyn arian trethdalwyr.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i’r staff a’r gwirfoddolwyr yn Venue Cymru, yn ogystal â’r economi leol o’i hamgylch. Bydd yn helpu i sicrhau ei dyfodol mewn amser pan mae’r awdurdod lleol yn wynebu pwysau economaidd sylweddol. Mae’r diwydiannau creadigol yn sector twf allweddol i Ogledd Cymru, ac mae gan Venue Cymru rôl hanfodol i’w chwarae nawr ac yn y dyfodol.

Edrychaf ymlaen i drafodaethau pellach gyda Chyngor Bwrdeisdref Sir Conwy ar y cynlluniau ar gyfer Venue Cymru, sy’n cynnwys cynlluniau ar gyfer hwb diwylliannol newydd. Rwy’n ymwybodol nad yw canlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch symud Llyfrgell Llandudno o Stryd Mostyn i Venue Cymru wedi eu cyhoeddi eto, a byddaf yn dilyn y mater hwn gyda diddordeb.

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content