Yn gynharach ym mis Rhagfyr, cynhaliais fwrdd crwn i gyn-filwyr yn Llandudno. Ymunodd Gill German, AS Gogledd Clwyd, â mi yn ogystal â chynrychiolwyr o grwpiau sy’n cefnogi cymuned y cyn-filwyr a nifer o gyn-filwyr sy’n byw’n lleol.
Roedd yn gyfle imi bwysleisio cefnogaeth ddiwyro’r blaid Lafur i’n lluoedd arfog, ac i drafod ychydig am ein cyhoeddiadau polisi diweddar sy’n cynnwys rhoi miliynau o bunnoedd yn ychwanegol tuag at fuddsoddi mewn rhaglenni cymorth digartrefedd ar gyfer cyn-filwyr a sefydlu Comisiynydd Lluoedd Arfog annibynnol.
Ond y peth pwysicaf yn ystod y cyfarfod oedd y cyfle i ofyn cwestiynau a gwrando ar brofiadau pawb a fynychodd. Buom yn trafod yr heriau a’r cyfleoedd gan gynnwys darparu cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr, tai, cylchoedd ariannu a sut y gallwn harneisio talent ac ymroddiad anhygoel y rhai sydd wedi gwasanaethu pan fyddant yn gadael y lluoedd.
Roedd yn drafodaeth werthfawr – llawer o weithredu i Gill a minnau, a byddaf yn cynnig sesiwn arall, y flwyddyn nesaf, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd. Cynhelir cyfarfod bord gron nesaf y cyn-filwyr ym Mangor – os hoffech fynychu y tro nesaf (neu i gadw mewn cysylltiad am fy ngwaith yn yr ardal leol yn gyffredinol) e-bostiwch: [email protected]
