Beth fyddech chi’n ei wneud gyda £20m ar gyfer Llandudno?
Rwyf wedi sicrhau £20m o gyllid Balchder yn ein Bro gan Lywodraeth Lafur y DU, ac mae pobl leol yn mynd i benderfynu sut caiff ei wario! Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy tan ganol mis Rhagfyr i ddweud wrth y Llywodraeth pa ardal ddylai elwa ar yr arian hwn. Rwy’n dadlau y dylid ei ddefnyddio i gefnogi pobl a theuluoedd yn Llandudno – ac mae arnaf angen eich help i wneud yr achos!
Nawr, y cam nesaf yw gwrando ar eich syniadau chi i wneud yn siwr bod yr arian yn cael ei wario ar yr hyn yr ydych chi eisiau ei weld.
Cymerwch 2 funud i gwblhau yr arolwg isod er mwyn rhannu eich syniadau. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau pellach, gwnewch yn siwr i gysylltu drwy ebost ar [email protected].
