Article published: 10 Jul 2026

Cyfyngiadau Newydd ar Fêps sy’n cael eu Marchnata i Blant yn dod i Fangor Aberconwy

Mae Claire Hughes AS wedi croesawu ymgyrch newydd gan Lywodraeth y DU yn erbyn fêps sy’n cael eu marchnata i blant.

Mae gweinidogion wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar draws y DU ar gynlluniau i gyflwyno pecynnu gwyn plaen ar gyfer fêps, cyfyngu ar enwau blas sy’n apelio at blant, a chadw cynnyrch fêps o’r golwg mewn siopau, cyfanwerthwyr a meysydd awyr. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig ymestyn y rheolau pecynnu plaen presennol i bob cynnyrch tybaco, gan gynnwys sigârs a phapurau sigaréts.

Daw’r cam yn dilyn ffigyrau gan Action on Smoking and Health (ASH) sy’n dangos bod tua miliwn o bobl ifanc 11 i 17 oed ym Mhrydain wedi dweud iddyn nhw drio fêpio y llynedd, gyda thystiolaeth yn pwyntio at becynnu lliwgar, arddangosfeydd amlwg mewn siopau a blasau sy’n apelio at blant fel prif ysgogwyr y duedd.

Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno cynllun leisans manwerthu gorfodol i bob gwerthwr fêps a thybaco, yn bersonol ac ar-lein, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Wrth roi sylwadau ar y cyhoeddiad, dywedodd Claire Hughes AS:


Mae llwythi o bobl ym Mangor Aberconwy wedi deud wrtha i eu bod nhw wedi cael llond bol efo’r nifer o siopau fêps sy’n agor ar ein strydoedd mawr ni, a dwi’n gwybod bod rhieni’n poeni am ba mor hawdd mae fêps yn cael eu marchnata i blant.


“Mae’r Llywodraeth Lafur yma’n cymryd camau. Dwi’n croesawu’r cynllun trwyddedu Tybaco a Fêps, ochr yn ochr â rheolau newydd i gael gwared â’r lliwiau llachar, brandio cartŵn a blasau melys sydd wedi’u cynllunio i ddal llygad plentyn.


“Mae gan fêps rôl bwysig i’w chwarae i helpu oedolion sy’n smygu i roi’r gorau iddi, ond ddylan nhw byth gael eu cynllunio na’u gwerthu mewn ffordd sy’n temtio plant i ddechrau. Fyswn i’n annog pobl ar draws yr etholaeth i leisio’u barn yn yr ymgynghoriad yma.”


Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, James Murray:


“Mae’r dystiolaeth yn glir: mae gormod o bobl ifanc yn arbrofi efo fêps, wedi’u denu gan yr amrywiaeth o flasau, lliwiau llachar ac arddangosfeydd marchnata.


“Dan ni isio dyfodol iachach i’r genhedlaeth nesaf, felly mae’n rhaid i ni weithredu rŵan i leihau apêl fêps caethiwus i’n plant ni.”


Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan 2 Hydref 2026. Gall aelodau’r cyhoedd rannu eu barn drwy ymweld â yma.


Hyrwyddwyd gan Claire Hughes yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain, SW1A 0AA. Telir am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS, ac ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu’r wefan hon.


Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content