Claire enwebodd Wild Horse ar gyfer y wobr a chroesawodd Emma a Dave o’r bragdy i San Steffan ar gyfer y seremoni wobrwyo yr wythnos hon.
Ers dechrau yn Llandudno yn 2015, mae Wild Horse wedi dod yn rhan adnabyddus o’r gymuned leol. Mae y clybiau rhedeg a beicio misol yn agored i bobl o bob gallu, gan ddod â phobl at ei gilydd ar gyfer sesiynau rhedeg a beicio cymdeithasol sydd fel arfer yn gorffen yn ôl yn y Taproom.
Dywedodd Claire Hughes AS:
“Roeddwn i’n falch iawn o enwebu Wild Horse ar gyfer y wobr hon. Maen nhw wedi adeiladu cymuned wych o amgylch eu clybiau rhedeg a beicio, gan ddod â phobl at ei gilydd beth bynnag fo’u cyflymder neu eu gallu.
“Llongyfarchiadau mawr i Emma, Dave a thîm cyfan Wild Horse. Mae’n wobr haeddiannol iawn, ac mae’n wych gweld busnes o Landudno yn cael ei gydnabod ar lwyfan cenedlaethol.”
Awydd cymryd rhan? Gallwch gofrestru ar gyfer un o sesiynau rhedeg neu feicio cymdeithasol Wild Horse – neu, os yw hynny’n swnio ychydig yn rhy egnïol, gallwch alw heibio’r Taproom am beint!
Y naill ffordd neu’r llall, gallwch ddysgu mwy am Wild Horse, beth maen nhw’n ei fragu a beth sydd ganddyn nhw ar y gweill drwy ddilyn y ddolen yma.
Hyrwyddwyd gan Claire Hughes yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain, SW1A 0AA. Telir am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS. Ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu’r wefan hon.
