Mae Claire Hughes AS wedi rhyddhau rhaglen ddogfen hynod bersonol am ei phrofiad o ganser y fron, yn y gobaith y bydd rhannu ei stori yn annog mwy o bobl i wirio eu brest a cheisio cyngor meddygol os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn.
Mae’r ffilm wyth munud yn dilyn Claire wrth iddi fyfyrio ar y saith mis a newidiodd ei bywyd, o ddod o hyd i lwmp bach ar hap i gael llawdriniaeth, cemotherapi a radiotherapi ar gyfer canser y fron negyddol triphlyg gradd 3.
Gwyliwch raglen ddogfen wyth munud Claire am ei phrofiad o ganser y fron, triniaeth ac adferiad.
Cafodd Claire ddiagnosis ym mis Hydref 2025, ychydig wythnosau ar ôl cael ei phenodi’n Weinidog yn Swyddfa Cymru. Yn y rhaglen ddogfen, mae’n siarad yn agored am realiti corfforol ac emosiynol triniaeth ac adferiad, yn ogystal ag effaith annisgwyl y menopos a achoswyd gan driniaeth, rhywbeth nad oedd hi’n gwybod llawer amdano cyn ei diagnosis.
Wedi’i ffilmio ledled Gogledd Cymru, mae’r rhaglen ddogfen hefyd yn dilyn Claire i rai o’r lleoedd a’i helpodd drwy ei thriniaeth, gan gynnwys yr arfordir ar hyd Gogledd Cymru a mynyddoedd y Carneddau yn agos at ei chartref.
Dywedodd Claire:
“Os bydd rhannu fy stori yn annog hyd yn oed un person i wirio ei hun neu fynd i gael rhywbeth wedi’i archwilio’n gynt, yna bydd wedi bod yn werth chweil.
“Peidiwch â meddwl nad oes angen i chi wirio eich hun dim ond am eich bod yn ifanc. Y mwyaf rydw i wedi’i ddysgu amdano, y mwyaf rydw i wedi gweld sut mae’r math hwn o ganser yn effeithio ar fenywod iau.
“Mae llawer o adnoddau gwych ar-lein gan Breast Cancer Now, CoppaFeel! a Cancer Research UK, ac rydw i wir yn gobeithio y bydd pobl yn cymryd ychydig funudau i ddysgu beth i gadw llygad amdano a chael unrhyw beth anarferol wedi’i wirio.”
Mae Claire hefyd yn talu teyrnged yn y ffilm i staff y GIG a fu’n gofalu amdani drwy gydol ei thriniaeth.
Dywedodd:
“Mae’r nyrsys gofal y fron, y llawfeddyg a phawb mor garedig. Does neb yn eich brysio, mae pawb yn cymryd eu hamser i ateb eich cwestiynau a gwneud yn siŵr eich bod wedi deall popeth. Rydyn ni mor ffodus o gael ein GIG ac o gael pobl mor wych yn gweithio ynddo.”
Wrth fyfyrio ar gwblhau ei thriniaeth a dychwelyd i San Steffan ym mis Mai, dywedodd Claire fod y profiad wedi ei gwnedu hi’n fwy pernderfynol i barhau i gynrychioli’r cymunedau lle cafodd ei magu.
“Mae bywyd yn fyr. Pa fraint fwy sydd yna na chynrychioli’r lle y cawsoch eich magu a’r lle rydych chi’n ei alw’n gartref?
“Mae mynd drwy ganser yn eich atgoffa o’r hyn sy’n wirioneddol bwysig. Mae wedi fy wneud i’n fwy penderfynol i barhau i frwydro dros y cymunedau rydw i’n eu cynrychioli.”
Mae tua 60,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser y fron yn y DU bob blwyddyn. Mae Claire yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiad yn helpu mwy o bobl i ddod yn gyfarwydd ag arwyddion a symptomau’r clefyd, gwneud gwirio eu bronnau neu eu brest yn arfer rheolaidd a cheisio cyngor meddygol os byddant yn sylwi ar newid.
Mae’r rhaglen ddogfen wedi derbyn cefnogaeth gan Breast Cancer Now, CoppaFeel! a Maggie’s, sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl y mae canser y fron a mathau eraill o ganser yn effeithio arnynt.
Dywedodd Claire Rowney, Prif Weithredwr Breast Cancer Now:
“Rydym mor ddiolchgar i Claire am rannu ei phrofiad personol o ganser y fron mor agored drwy’r ffilm hon ac am dynnu sylw at bwysigrwydd gwirio’r bronnau a diagnosis cynnar.
“Rydym yn gwybod bod pobl fel Claire sy’n rhannu eu straeon yn helpu i normaleiddio trafodaethau am iechyd y fron a phwysigrwydd gwirio’r bronnau.”
Dywedodd Natalie Haskell, Prif Weithredwr CoppaFeel!:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Claire am rannu ei stori ac am dynnu sylw at y ffaith bod miloedd o fenywod iau yn cael diagnosis o ganser y fron bob blwyddyn.
“Rydym yn gwybod bod un o bob chwe achos o ganser y fron yn cael ei ddiagnosio mewn menywod sydd o dan oedran sgrinio, ac i fenywod du, yr oedran cyfartalog ar gyfer diagnosis yw 46, bedair blynedd cyn i sgrinio ddechrau hyd yn oed. Yn ogystal â hyn, rydym yn gwybod bod 1 o bob 3 menyw iau â chanser y fron wedi cael eu hanwybyddu i ddechrau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth gyflwyno symptomau gan eu bod yn cael eu hystyried yn ‘rhy ifanc’.
“Yn CoppaFeel!, ein cenhadaeth yw annog pobl i wirio eu brest yn rheolaidd, ymgyrchu dros system sgrinio sy’n ystyried risg, nid oedran yn unig, a dros ymchwil mwy ystyrlon i wella canlyniadau canser y fron i bobl iau.”
Dywedodd y Fonesig Laura Lee DBE, Prif Weithredwr Maggie’s:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Claire am rannu ei phrofiad o ganser mor agored a gonest drwy’r ffilm hon. Mae diagnosis o ganser yn effeithio ar bob rhan o fywyd person, a thrwy siarad am ei chanser, bydd Claire yn helpu pobl eraill y mae canser yn effeithio arnynt i deimlo’n llai unig ac yn eu hannog i geisio cefnogaeth pan fydd ei hangen arnynt fwyaf.”
Am ragor o wybodaeth am ganser y fron, gan gynnwys canllawiau ar wirio eich bronnau neu eich brest, adnabod yr arwyddion a’r symptomau, a chael mynediad at driniaeth a chefnogaeth, ewch i:
Breast Cancer Now: https://breastcancernow.org/
CoppaFeel!: https://coppafeel.org/
Maggie’s: https://www.maggies.org/

Hyrwyddwyd gan Claire Hughes yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain, SW1A 0AA. Telir am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS, ac ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu’r wefan hon.