Mae Claire Hughes, AS Bangor Aberconwy, wedi siarad am bwysigrwydd diogelwch dŵr, gan annog pobl ledled yr etholaeth i fod yn ymwybodol o’r peryglon sy’n gysylltiedig â dŵr agored cyn Diwrnod Atal Boddi’r Byd.
Mae’r ardal yn gartref i rai o ardaloedd dŵr harddaf Cymru, o afonydd a llynnoedd i’r arfordir, ond rhybuddiodd Claire Hughes AS y gall dŵr agored achosi peryglon difrifol, gyda thrasiedi’n gallu digwydd mewn eiliadau. Nododd fod y gymuned wedi cael ei heffeithio gan golledion o’r fath fwy nag unwaith, gan gynnwys mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf.
Wrth siarad â Newyddion S4C, trafododd Claire Hughes AS ymgyrch newydd y Royal Life Saving Society (RLSS), “Be a mate. Speak out.”, sy’n annog pobl i edrych allan am ei gilydd o amgylch afonydd, llynnoedd a thraethau, ac i godi llais pan fyddant yn gweld ymddygiad peryglus.
Wrth wneud sylw cyn y cyfweliad, dywedodd Claire Hughes AS:
“Does neb yn ein hardal ni sydd heb gael ei effeithio gan golli ffrind, aelod o’r teulu neu rywun yn eu cymuned drwy foddi.
“Rydym yn hynod ffodus i gael cymaint o afonydd, llynnoedd a thraethau prydferth i’w mwynhau. Ond gall dŵr agored fod yn beryglus, a gall hwyl droi’n drasiedi mewn chwinciad. Yn anffodus, rydym wedi gweld hyn yn digwydd gormod o weithiau yn ein hardal.
“Rwy’n rhiant i bobl ifanc yn eu harddegau fy hun, ac rwy’n gwybod pa mor anodd y gall fod i siarad am bethau fel hyn. Ond edrychwch ar adnoddau’r RLSS a’r RNLI ar-lein, os gwelwch yn dda, ac anogwch y bobl yn eich bywydau i fod yn ymwybodol o’r peryglon.
“Rwy’n meddwl am bawb sydd wedi colli rhywun fel hyn, yn enwedig y rhai sy’n galaru yn Llandudno ar hyn o bryd, a ffrindiau a theulu Jenna Jones a fu farw yn Llanfairfechan bum mlynedd yn ôl yr wythnos nesaf.”
Ar gyfartaledd yng Nghymru, mae un achos o foddi bob wythnos, ac amcangyfrifir bod tua 600 o bobl yn colli eu bywydau mewn digwyddiadau sy’n gysylltiedig â dŵr ledled y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Mae ymgyrch Float to Live yr RNLI yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr a’r camau y gall pobl eu cymryd i gadw’n ddiogel.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau diogelwch dŵr, gan gynnwys cyngor ar beth i’w wneud os ydych chi neu rywun arall yn mynd i drafferthion yn y dŵr, ar gael ar wefannau’r RLSS a’r RNLI.
Hyrwyddwyd gan Claire Hughes yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain, SW1A 0AA. Telir am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS, ac ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu’r wefan hon.
