Article published: 28 Aug 2026

Bangor, Be Nesaf? Claire Hughes AS yn lansio wythnos o sgyrsiau ledled y ddinas

Yn cael ei chynnal rhwng 19 a 25 Medi, bydd yr wythnos yn rhoi cyfle i bobl ledled Bangor rannu eu syniadau ar gyfer y ddinas a helpu i lywio’r gwaith sydd eisoes ar y gweill i ddenu buddsoddiad a chyfleoedd newydd i’r ardal. Mae Claire yn esbonio mwy isod.

Dwi’n cynnal wythnos gyfan o sgyrsiau ar draws Bangor, a byswn i wrth fy modd pe ‘sa chi’n gallu ymuno â mi.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf ers dod yn AS yma, dwi ‘di bod yn siarad efo trigolion a busnesau ar draws Bangor. Dwi ‘di clywed popeth am yr heriau a’r problemau, a llawer o syniadau am yr hyn sydd yn gorfod newid.

Ochr yn ochr gyda unigolion gwych yma ym Mangor, ‘dwi eisoes yn gweithio ar gynlluniau i helpu i ddod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd a denu buddsoddiad, ac dwi dal i frwydro i gael marchnad fwyd a diod dan do ar waith.

Mae gwaith gwych yn digwydd o’r gwaelod i fyny hefyd. Mae Gŵyl Haf Bangor, Bangor Ska & Soul ac eraill yn dangos beth sy’n gallu digwydd pan ‘da ni’n cynnig rheswm i bobl ddod i ganol y ddinas ac i greu bwrlwm go iawn.

Yr wythnos yma ydy’r cam nesaf, gan hel y dystiolaeth sydd ei hangen arnom i wneud i bethau ddigwydd yn ein dinas.

Byddaf yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir dros yr wythnos i gryfhau ceisiadau am gyllid, mynd ar ôl buddsoddiad cyhoeddus a phreifat, a bwydo’n uniongyrchol i mewn i’r corff adfywio newydd rwy’n gweithio i’w sefydlu yr hydref hwn.

Ac mae’r amseru’n bwysig hefyd.

Mae pecyn enfawr o waith ar gyfer Wylfa newydd gael ei gyhoeddi, gyda busnesau lleol eisoes yn cael eu hannog i gofrestru eu diddordeb. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y prosiect niwclear newydd yn Wylfa yn dod â miloedd o swyddi da a buddsoddiad sylweddol i Ogledd Cymru.

Mae hynny’n creu cyfle cyffrous iawn i ddenu busnesau a buddsoddiad newydd i’n hardal, ac i wneud yn siŵr bod Bangor yn elwa ar y twf sy’n digwydd o’n cwmpas.

Mae hwn yn gyfle enfawr i Fangor – ond mae’n rhaid i ni ei gymryd o!

Bellach, mae dros bum mlynedd ers i Gyngor Gwynedd a Chyngor Dinas Bangor gyhoeddi uwchgynllun Bangor, a does dim digon wedi digwydd ers hynny.

Mae’r stŵr ar ôl cyhoeddiad prosiect Storiel yn dangos beth sy’n digwydd pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud heb gynnwys y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma yn iawn. ‘Da ni ‘di bod yn clywed am ganolfan feddygol newydd ers blynyddoedd, ac eto does dim cynnydd gwirioneddol wedi bod.

Mae pobl yn rhwystredig, ac mae ganddyn nhw bob rheswm i fod.

Fel dwi ‘di’i ddweud erioed, dydw i ddim yn barod i eistedd yn ôl ac aros i rywbeth ddigwydd.

Felly ‘dwi am dreulio wythnos allan ar draws y ddinas yn siarad gyda chi. Nid dechrau o’r dechrau, ond profi ac adeiladu ar yr hyn rydych chi eisoes wedi’i ddweud wrthyf.

Be fysa’n gwneud i chi ddod i Fangor yn amlach? Beth ddylai lenwi ein hadeiladau gwag? Be fysa chi’n ei ddefnyddio a’i gefnogi mewn gwirionedd? Pa ddigwyddiadau a gweithgareddau fyddai’n denu pobl i’r ddinas? A be fysa’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf nawr?

Dewch i ddweud eich dweud

Byddaf mewn lleoliadau ar draws Bangor drwy gydol yr wythnos. Does dim angen archebu lle – dewch draw am baned a sgwrs.

Dydd Sadwrn 19 Medi
11am–1pm – Antoniazzi’s / Penguin Café
260 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1RS
https://fb.me/e/4DK5hfq58

Dydd Llun 21 Medi
9.30am–11.30am – Westend Checkpoint (Academi)
39 Ffordd Farrar, Bangor, LL57 1LJ
https://fb.me/e/4JnwqINrG

12pm–2pm – Morrisons, Bangor Uchaf
Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2ED
https://fb.me/e/8PDK1n01Q

5.30pm–7.30pm – Crossville Club
Ffordd Glandŵr, Bangor, LL57 1AD
https://fb.me/e/4QNRe74ww

Dydd Mawrth 22 Medi
10am–12pm – Cafe Kyffin
129 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NT
https://fb.me/e/7xpA9raIH

12.30pm–2.30pm – Caffi/Campws Coleg Menai
Ffordd Ffriddoedd, Bangor, LL57 2TP
https://fb.me/e/6y0a0hV3X

Dydd Mercher 23 Medi
11am–1pm – Pontio
Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ
https://fb.me/e/9LnKdiqW3

2pm–4pm – Clio Lounge
276 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1UL
https://fb.me/e/6irPmXdKN

Dydd Gwener 25 Medi
9am–11am – Caffi Cysur
147–149 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NT
https://fb.me/e/7i5mZEWwL

Byddai’n rhannu’r canlyniadau gyda thîm adfywio’r Cyngor ac yn gwahodd tasglu strydoedd mawr newydd Llywodraeth Cymru Plaid Cymru i ddod i glywed yn uniongyrchol gan drigolion Bangor hefyd.

Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, rydym eisoes yn gwybod beth yw’r heriau strwythurol sy’n wynebu Bangor: ardrethi, nifer yr ymwelwyr, parcio a chynllunio.

Nid ailadrodd y problemau ‘da ni gyd yn gwybod sy’n bodoli ydi nod yr wythnos hon.

Mae hyn am dan troi syniadau i mewn i weithred, er mwyn adeiladu’r achos dros fuddsoddi, cefnogi’r pethau sydd eisoes yn gweithio, a bwrw ati i wneud i bethau ddigwydd.

Nid ymgynghoriad. Sgwrs.

Mae’r coffi arna i.

Dewch i ymuno.

Dros Fangor.

Drosom ni.

Hyrwyddwyd gan Claire Hughes yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain, SW1A 0AA. Telir am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS. Ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu’r wefan hon.

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content