Article published: 07 Aug 2026

Cronfa Effaith Balchder Bro yn Cefnogi Prosiectau Ledled Bangor Aberconwy

Mae prosiectau ledled Bangor Aberconwy ar fin elwa o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU, gyda Chyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ill dau yn derbyn £1.5 miliwn o gyllid cyfalaf dros ddwy flynedd i gefnogi prosiectau yn eu hardaloedd. Ar hyd Bangor Aberconwy, mae’r cyllid yn cefnogi sefydliadau cymunedol a busnesau sy’n gweithio i adfywio strydoedd mawr, mannau cymunedol ac ardaloedd cyhoeddus lleol.

Mae’r gronfa yn rhan o raglen Balchder Bro Llywodraeth y DU, sy’n buddsoddi mewn trefi a chymunedau ledled y wlad er mwyn sicrhau gwelliannau gweladwy a pharhaol. Cyflwynwyd ceisiadau llwyddiannus gan sefydliadau sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn mynd i’r afael ag anghenion lleol clir, yn ogystal â busnesau sy’n dod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd er mwyn helpu i adfywio strydoedd mawr a chanol trefi.

Mae’r prosiectau sy’n derbyn cyllid ledled Bangor Aberconwy yn cynnwys gwelliannau i adeiladau cymunedol, mannau cyhoeddus ac ardaloedd chwarae, yn ogystal ag adnewyddu cyfleusterau lleol. Mae’r rhain yn cynnwys ehangu canolfan gymunedol ym Mhenmaenmawr, ailagor toiledau cyhoeddus yng Ngherrigydrudion a gwella parciau chwarae a mannau gwyrdd ym Metws-yn-Rhos, ochr yn ochr â buddsoddiad ym Mangor, gan gynnwys gwelliannau i flaenau siopau a hygyrchedd, a chyfleusterau newydd yng Nghanolfan Gymunedol Penrhosgarnedd.

Wrth wneud sylw ar y cyhoeddiad, dywedodd Claire Hughes AS:

“Mae Cronfa Effaith Balchder Bro yn ymwneud â chefnogi’r prosiectau y mae pobl leol yn gwybod fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w cymunedau, ac rwy’n falch iawn o weld trefi a phentrefi ledled Bangor Aberconwy yn elwa o’r cyllid hwn.

“O welliannau i gyfleusterau cymunedol a mannau cyhoeddus i fuddsoddiad yn ein strydoedd mawr, mae’r rhain yn brosiectau ymarferol ledled Gwynedd a Chonwy a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl o ddydd i ddydd ac yn helpu i gryfhau ein cymunedau.”

Cyhoeddwyd Cronfa Effaith Balchder Bro gan Lywodraeth y DU y llynedd, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Gwynedd ill dau yn derbyn £1.5 miliwn o gyllid cyfalaf dros ddwy flynedd i’w ddosbarthu i brosiectau lleol.

Mae’r gronfa yn canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth: mannau cymunedol, mannau cyhoeddus ac adfywio strydoedd mawr. Mae’n darparu grantiau cyfalaf ar gyfer gwelliannau ffisegol yn unig, ac nid yw gwaith cynnal a chadw arferol na chostau rhedeg yn gymwys. Am ragor o wybodaeth am y Gronfa Effaith, ewch i Pride in Place Impact Fund: prospectus – GOV.UK.

Mae’r Gronfa Effaith yn cyd-fynd â’r rhaglen Balchder Bro ehangach, sydd hefyd yn ariannu’r buddsoddiad cymdogaeth gwerth £20 miliwn dros ddeng mlynedd yn ardal Mostyn a Tudno yn Llandudno. Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen, ewch i Pride in Place Programme prospectus – GOV.UK.

Mae Claire Hughes AS yn cynnal arolwg agored i drigolion Cymdogaeth Balchder Bro, gan roi cyfle i bobl leol rannu eu barn a helpu i lunio sut y caiff y buddsoddiad ei ddefnyddio. Os ydych chi’n byw yn Nhudno neu Mostyn, neu’n nabod rhywun sydd yn, dilynwch y ddolen yma er mwyn llenwi’r arolwg.

Hyrwyddwyd gan Claire Hughes yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain, SW1A 0AA. Telir am y wefan hon yn annibynnol gan AS Claire Hughes; ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus wrth gynhyrchu’r wefan hon.

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content