Article published: 09 Jun 2026

Gwnewch Gais i Ymuno â Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Tudno a Mostyn

Rydym yn Chwilio am Bobl Leol i Helpu Arwain Dyfodol Tudno a Mostyn

Rydym wedi sicrhau £20 miliwn dros y deng mlynedd nesaf i’n hardal drwy raglen Balchder Bro Llywodraeth y DU.

Mae hwn yn gyfle gwych i fuddsoddi yn y pethau sy’n bwysig i bobl leol – creu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc, cefnogi prosiectau lleol, a sicrhau newidiadau y gall pobl eu gweld a’u profi.

Ond er mwyn i hyn lwyddo, rhaid i’r gymuned arwain.

Mae gennym bellach dîm arweinyddiaeth ragorol. Mae Jim Jones a Jayne Black wedi’u penodi’n Gadeirydd ac yn Ddirprwy Gadeirydd. Mae gan y ddau gysylltiad dwfn â’r gymuned ac maent yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r gwaith.

Dyna pam rydym yn annog pobl sy’n byw yn yr ardal, yn gweithio’n lleol, yn gwirfoddoli’n lleol, neu sydd â chysylltiad cryf â Tudno a Mostyn i gyflwyno cais i ymuno â’r Bwrdd Cymdogaeth newydd.

Nid oes angen i chi fod wedi gwasanaethu ar fwrdd o’r blaen. Nid oes angen profiad arbenigol arnoch. Ac nid oes angen i chi fod y math o berson sydd fel arfer yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd cyngor neu bwyllgorau ffurfiol.

Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn gwrando ar bobl eraill ac yn awyddus i helpu i wneud Tudno a Mostyn yn llefydd cryfach byth.

Rydym yn awyddus i’r Bwrdd adlewyrchu cymysgedd gwir o leisiau – rhieni, pobl ifanc, gwirfoddolwyr cymunedol, gweithwyr lleol, aelodau o glybiau chwaraeon, grwpiau ffydd, ysgolion, busnesau, elusennau, cymdeithasau tai a thrigolion sydd yn gwerthfawrogi’r ardal a’r gymuned leol.

Bydd y Bwrdd yn helpu i lunio cynllun hirdymor ar gyfer yr ardal, yn gwrando ar y gymuned ehangach, yn ystyried syniadau ar gyfer buddsoddi, ac yn helpu i sicrhau bod y cyllid hwn yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol.

Dyma gyfle i leisio eich barn, sefyll dros eich cymuned, a helpu i wneud penderfyniadau a fydd yn siapio’r deg mlynedd nesaf.

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais drwy ddefnyddio’r ddolen isod.

https://forms.gle/iNA62Mbx3kXshZyh8

 

 

Talwyd am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS, ac ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu’r wefan hon.

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content