Mae Pencampwriaeth Ewropeaidd Dan-19 UEFA yn cael ei chynnal ar hyn o bryd yng Ngogledd Cymru, gan ddod â phêl-droed rhyngwladol i’n cymunedau.
Mae wedi bod yn wych cael gweld ein hardal yn cynnal y twrnamaint, gan groesawu chwaraewyr, cefnogwyr ac ymwelwyr o bob rhan o Ewrop, wrth arddangos popeth sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig.
Yma ym Mhenmaenmawr, treuliodd tîm cenedlaethol Serbia Dan-19 amser gyda chwaraewyr ifanc Clwb Pêl-droed Penmaenmawr Phoenix. Rhoddodd y sesiwn gyfle i bobl ifanc lleol gwrdd â’r chwaraewyr a chymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau gyda nhw, gan greu atgofion a fydd yn aros am oes.
Mae cynnal gemau ac ymweliadau timau fel rhan o’r twrnamaint wedi dod â thimau rhyngwladol i gysylltiad â chymunedau lleol ledled Gogledd Cymru. Mae profiadau fel hyn yn dangos pŵer pêl-droed wrth ddod â’r gymuned a phobl ifanc at ei gilydd.
Diolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o wneud y twrnamaint yn llwyddiant, ac i Glwb Pêl-droed Penmaenmawr Phoenix am roi profiad i’w chwaraewyr ifanc na fyddant byth yn ei anghofio!
Talwyd am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS, ac ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu’r wefan hon.
