Mae’r sioe yn yn un o uchafbwyntiau calendr yr haf yn Nyffryn Conwy, gan adlewyrchu hanes hir Llanrwst fel prif dref farchnad yr ardal. Denodd bobl o bob cwr o’r rhanbarth a thu hwnt, gyda chyfle i’r rhai oedd yno gwrdd â mudiadau amaethyddol lleol, blasu bwyd a diod gan gynhyrchwyr lleol, a mwynhau cystadlaethau ac arddangosion y dydd.
Yn ystod ei hymweliad, cafodd Claire Hughes AS sgwrs a cynrychiolwyr o NFU Cymru a FUW, gan gynnwys sgwrs a Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Paul Williams, sy’n ffermio ger Llanrwst yn Nebo. Argymhellodd Paul iddi fynd i weld yr arddangosfa hen dractorau, un o atyniadau poblogaidd y dydd.
Wrth roi sylwadau ar ôl y sioe, dywedodd Claire Hughes AS:
“Roedd Sioe Llanrwst eleni yn un i’w chofio go iawn. Roedd hi’n wych cael gweld cymaint o bobl yno o Ddyffryn Conwy a thu hwnt.
“Roedd hi’n grêt cael sgwrs efo NFU Cymru a FUW, ac wrth gwrs blasu’r bwyd a’r ddiod anhygoel oedd ar gael.
“Diolch o galon i’r holl gystadleuwyr, arddangoswyr a gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi cymaint o’u hamser i wneud i’r sioe ddigwydd.”
Talwyd am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS, ac ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu’r wefan hon.
