Mae pecyn gorfodi gwerth £44.7 miliwn wedi’i osod ar Dŵr Cymru Welsh Water yn dilyn difrod amgylcheddol a gollyngiadau gwastraff.
Mae diogelu ein hafonydd, ein dyfrffyrdd a’n hamgylchedd lleol yn fater sy’n bwysig iawn i bobl ledled ein cymuned. Dyna pam rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Dŵr Cymru i ofyn am gyfarfod i drafod beth fydd y pecyn gorfodi hwn yn ei olygu i’n hardal.
Yn ystod y cyfarfod hwnnw, byddaf yn ceisio cael eglurder ynghylch pa safleoedd lleol fydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gwelliannau, a pha gamau fydd yn cael eu cymryd i atal rhagor o ddifrod amgylcheddol.
Er bod y pecyn gorfodi hwn yn gam pwysig ymlaen, mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Bydd Llywodraeth Lafur y DU yn cyflwyno Bil Dŵr newydd eleni i gryfhau’r ffordd y mae’r diwydiant dŵr yn cael ei reoleiddio ac i helpu i lanhau ein hafonydd a’n moroedd.
Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw diogelu ein hamgylchedd lleol i drigolion, a byddaf yn parhau i bwyso am well, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i bethau ddatblygu.
Talwyd am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS, ac ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu’r wefan hon.
