Mae cyllideb y Canghellor yn nodi dechrau ar bennod newydd i Brydain, i Gymru ac ar gyfer ein cymunedau ar draws Bangor Aberconwy. Gan osod y buddsoddiad mwyaf mewn cyllideb i Gymru yn hanes datganoli, mae hyn yn golygu ffarwelio a’r oes o addo’r byd a cyflawni dim a welwyd o dan y Ceidwadwyr.
Roeddwn yn falch i allu cymryd rhan yn nadl y gyllideb yn y Siambr- gallwch wylio fideo o fy araith isod: https://youtu.be/PbEtrHX7nSk
