Yn dilyn cyfarfod cadarnhaol gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth ynglŷn â’r cynnig parcio a theithio, byddaf yn cyfarfod â Chyngor Gwynedd a Betsi yn nes ymlaen y mis hwn i drafod y sefyllfa ehangach o ran parcio yn Ysbyty Gwynedd.
Unwaith eto – diolch o galon i bawb a lenwodd fy arolwg neu a anfonodd eich sylwadau a’ch adborth. Diolch i chi, mae gennyf gasgliad cryf iawn o dystiolaeth i’w gyflwyno gan staff, cleifion a thrigolion lleol.
Byddaf yn eich diweddaru wrth i bethau symud yn eu blaen – mae hyn wedi mynd ymlaen yn rhy hir, ac ni fyddaf yn gadael i’r mater orffwys.
