Claire Hughes AS yn croesawu cytundeb hanesyddol Wylfa, gan ddod â miloedd o swyddi ac ynni glân i Ogledd Cymru
Heddiw, mae Great British Energy – Nuclear a Rolls-Royce SMR wedi llofnodi cytundeb i ddarparu’r Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMRs) cyntaf y DU yn Wylfa, Ynys Môn – gan sicrhau miloedd o swyddi a dyfodol ynni glân i Ogledd Cymru.
Disgwylir i’r prosiect tair uned yn Wylfa gynhyrchu o leiaf 1.4 gigawat o drydan glân, digon i bweru tair miliwn o gartrefi am fwy na 60 mlynedd. Rhagwelir y bydd y prosiect yn cefnogi tua 3,000 o swyddi medrus yn lleol, gyda miloedd yn rhagor ar draws y DU.
Mae’r cyhoeddiad yn adlewyrchu bwriad ehangach Llywodraeth Lafur i fuddsoddi mewn ynni glân cartrefol wrth sicrhau adfywiad economaidd mewn llefydd sydd ers tro wedi bod wrth galon twf diwydiannol y DU.
Disgrifiodd yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband, y cytundeb fel cam hanfodol tuag at gyfnod newydd o ynni niwclear:
“Ar adeg o ansicrwydd byd-eang, mae hwn yn gam pwysig i ddiogelwch ynni Prydain.
“Rydym yn cefnogi cwmni Prydeinig i ddarparu ein hadweithyddion modiwlaidd bach cyntaf – gan greu cenhedlaeth o swyddi da, hybu twf a darparu ynni glân, Prydeinig am ddegawdau i ddod.
“Ein cenhadaeth ynni glân yw’r unig ffordd o ddianc rhag ein dibynniaeth ar danwyddau ffosil a chymryd rheolaeth dros ein hannibyniaeth ynni.”
Mae Adweithyddion Modiwlaidd Bach yn cynrychioli cenhedlaeth newydd o dechnoleg niwclear – wedi’u cynllunio i fod yn fwy hyblyg, yn gyflymach i’w hadeiladu, ac yn fwy cost-effeithiol na gorsafoedd traddodiadol. Gyda Wylfa wedi’i nodi fel safle allweddol ar gyfer eu datblygu, a’r potensial ar gyfer ehangu yn y dyfodol, mae’r prosiect yn gosod Gogledd Cymru ar flaen y gad o ran uchelgeisiau ynni glân y DU.
Dywedodd Claire Hughes, yr AS dros Fangor Aberconwy:
“Mae’n foment enfawr i Ogledd Cymru ac yn gam ymlaen i’n gymunedau.
“Y Llywodraeth Brydeinig hon sydd wedi ymrwymo £2.5 biliwn dros cyfnod y Senedd hon i roi’r prosiect ar waith, ynghyd â £600 miliwn ychwanegol drwy’r Gronfa Gyfoeth Cenedlaethol – gan gefnogi cwmni Prydeinig, Rolls-Royce, i’w gyflawni.
“Mae hyn yn un o’r buddsoddiadau cyhoeddus mwyaf erioed yng Nghymru. Mae’n gyflawniad gan y Llywodraeth, ac yn ymrwymiad i’n cymunedau yng Ngogledd Cymru.”
Mae’r prosiect hefyd yn cynrychioli cyfle sylweddol i genedlaethau’r dyfodol yng Ngogledd Cymru. Gyda rolau’n ymestyn ar draws peirianneg, adeiladu, rheoli prosiectau a sgiliau digidol, disgwylir iddo greu llwybrau i bobl leol ar bob lefel, gan helpu i fynd i’r afael â’r her hir sefydlog o bobl ifanc yn gadael yr ardal i chwilio am waith.
Ychwanegodd Claire Hughes AS:
“I gymunedau fel ein rhai ni, mae’r buddsoddiad hwn yn wirioneddol drawsnewidiol – gan ddod â swyddi o ansawdd uchel, cyfleoedd hirdymor, ac adnewyddiad hyder yn ein heconomi leol.
“Mae gan Wylfa dreftadaeth niwclear falch, ac mae’r prosiect hwn yn sicrhau bod y dreftadaeth honno nid yn unig yn cael ei diogelu, ond ei chryfhau ar gyfer y dyfodol.
“Ar adeg o ansicrwydd byd-eang, mae hyn yn ymwneud â darparu ynni glân, diogel, Prydeinig – a sicrhau bod Gogledd Cymru wrth galon y dyfodol hwnnw.”
Mae’r gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol yn tanlinellu’r angen brys i’r DU leihau ei dibyniaeth ar farchnadoedd tanwydd ffosil anwadal a chyflymu’r trawsnewidiad i ynni glân a diogel. Drwy gefnogi technoleg niwclear gartrefol a chyfleodd i ddenu buddsoddiad preifat ychwanegol er mwyn datblygiad SMRs, mae’r Gronfa Gyfoeth Cenedlaethol yn helpu i gryfhau safle’r DU mewn diwydiant byd-eang sy’n tyfu.
Mae’r cytundeb hanesyddol hwn yn drobwynt a fydd yn diffinio Gogledd Cymru, gan ddarparu ynni glân cartrefol, miloedd o swyddi medrus, a diogelwch ynni am ddegawdau i ddod.
Tellir am y wefan hon yn annibynnol gan Claire Hughes AS, ac ni ddefnyddiwyd unrhyw arian cyhoeddus i gynhyrchu’r wefan hon.
