Article published: 10 Apr 2026

Arolwg Cysylltedd Gwledig wedi’i lansio ym Mangor Aberconwy

Ydych chi’n methu cael band eang cyflym, neu signal symudol digon da lle rydych chi’n byw?

Dwi’n trio darganfod yn union beth sydd ar gael yn lle- ac mae angen eich help arnaf!

Os ‘da chi’n byw mewn rhan wledig o Fangor Aberconwy, cymerwch eiliad i:

•⁠ Lenwi fy arolwg

•⁠ Ag i rannu’r neges hon gyda’ch ffrindiau a’ch cymdogion

Dwi’n ymwybodol iawn na fydd llawer o bobl sy’n cael eu heffeithio gan broblemau cysylltedd yn gweld y neges hon ar-lein, felly ‘dwi hefyd wedi anfon copïau papur drwy’r post ac yn gofyn i gynghorau a grwpiau cymunedol helpu i ledaenu’r neges.

Os gallwch chi helpu, neu os hoffech chi roi adborth am yr hyn sy’n digwydd lle ‘da chi’n byw- ffoniwch fy swyddfa ar 01248 660 797 neu lenwch fy arolwg ar-lein!

https://tinyurl.com/ArolwgCysylltedd

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content