Article published: 23 Dec 2025

Deddf Hawliau Cyflogaeth, yn dod â hawliau cyflogaeth i’r 21ain ganrif i weithwyr ar draws Bangor Aberconwy.

Claire Hughes yr AS dros Fangor Aberconwy yn dathlu’r cyhoeddiad y bydd gweithwyr ar draws yr etholaeth yn elwa o well hawliau i weithwyr, gyda Bil Hawliau Cyflogaeth pwysig y Llywodraeth Llafur yma yn cael ei basio i mewn i ddeddfwriaeth.

Bydd y ddeddfwriaeth yma, sydd newydd ei phasio, yn cyflwyno mesurau newydd allweddol i ddod â hawliau gweithwyr i mewn i’r 21ain ganrif, yn cynnwys dod â’r contractau dim oriau ecsbloetiol i ben; sefydlu hawliau o’r diwrnod cyntaf ar gyfer absenoldeb tadolaeth, rhianta, a phrofedigaeth; cryfhau’r tâl salwch statudol; a sefydlu Asiantaeth Gwaith Teg newydd.

Yr AS lleol dros Fangor Aberconwy yn dathlu’r foment o falchder yma i’r Llywodraeth Llafur hon, sydd wedi gweithio’n agos gyda busnesau ac undebau llafur i ddarparu’r uwchraddiadau cenedlaethol hyn i hawliau gweithwyr.

Daw’r cyfreithiau newydd er gwaethaf ymdrechion parhaus gan y Ceidwadwyr, Reform, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd i rwystro ac i wanhau’r ddeddfwriaeth yma. Trwy roi rhwystrau i fyny ar bob cam, ceisiodd y gwrthbleidiau hyn nid yn unig i oedi a rhwystro gweithrediad gwell amodau gwaith ar gyfer gweithwyr, fe greon hefyd ansicrwydd ac achosi niwed economaidd i fusnesau lleol.

Golygai mesurau newydd y llywodraeth Llafur yma y  bydd y newidiadau i dâl salwch ac absenoldeb tadolaeth yn cael eu cyflwyno erbyn Ebrill 2026, gydag amddiffyniadau ychwanegol, yn cynnwys ar gyfer y gweithwyr sy’n cael eu talu lleiaf ym Mhrydain, gan gael eu cyflwyno yn unol ag amserlen y Llywodraeth i gyflawni hyn.

Trwy drafodaethau adeiladol rhwng undebau llafur a chynrychiolwyr busnes, bydd y gyfraith hon hefyd yn cyflwyno cyfnod cymhwyso ar gyfer diswyddo annheg, wedi’i leihau o 24 mis i 6 mis (tra’n parhau gyda’r amddiffyniad presennol o’r diwrnod cyntaf yn erbyn gwahaniaethu a sail annheg awtomatig i ddiswyddo) i sicrhau y bydd gweithwyr yn cael mwy o sicrwydd yn y gwaith, a busnesau’n cael mwy o amser i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn.

Dywedodd Claire Hughes AS:

“Rwy’n falch iawn i fod yn rhan o Lywodraeth Llafur sydd wedi dod â gwelliannau i hawliau gweithwyr ar gyfer cyflogai ar draws Bangor Aberconwy.

“Ar ôl siarad gyda thrigolion leol, rwyf wedi clywed faint o wahaniaeth fydd hyn ei wneud i’w bywydau – cynnig mwy o sicrwydd, gwell amodau gwaith a chynnydd mewn cyfleoedd yn y gwaith.

“Bydd y cyfreithiau hyn yn cryfhau’r sicrwydd ar gyfer busnesau yn fy etholaeth innau hefyd – gan fod o fudd i’r busnesau gwych hynny yng Ngogledd Cymru sydd eisoes yn trin eu gweithwyr yn iawn, gan lefelu’r cae chwarae a helpu i gadw staff.

“Wedi i’r holl wrthbleidiau geisio rhwystro a gwanhau’r uwchraddiadau trawsnewidiol hyn i hawliau gweithwyr, rwy’n falch i fod wedi pleidleisio am ddeddfwriaeth y Llywodraeth Llafur yma, i ddarparu economi sy’n gweithio i fusnesau ac i weithwyr.”

Dywedodd y Gweinidog Hawliau Cyflogaeth, Kate Dearden AS:

“Rwy’n falch iawn bod yr Arglwyddi wedi pasio’r Bil Hawliau Cyflogaeth.

“Mae hon yn foment hanesyddol fydd yn gwneud bywyd gwaith yn decach, yn fwy sicr, ac yn well i filiynau o bobl ar draws y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Busnes a Masnach, Peter Kyle AS:

“Mae’r Bil Hawliau Cyflogaeth wedi clirio ei rwystr seneddol olaf. Mae hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth mai dim ond llywodraeth Llafur allai ei gyflwyno ac mae llawer o’n nghydweithwyr a’r mudiad ehangach wedi brwydro amdano ers amser. Bydd yn dod â’n hawliau cyflogaeth i mewn i’r 21ain ganrif gyda llawer o’r mesurau hyn yn hir-ddisgwyliedig. Mae’r gwaith caled o’i weithredu yn cychwyn rŵan. Edrychaf ymlaen i weithio gydag undebau llafur, busnes a’r gymdeithas sifil i’w wneud yn realiti.”

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content