Article published: 17 Dec 2025

Claire Hughes AS yn Cefnogi Ymchwiliad Mawr y Llywodraeth i Ddiweithdra Ieuenctid

Heddiw, cefnogodd Claire Hughes AS archwiliad arloesol y Llywodraeth Llafur gan Alan Milburn i mewn i achosion diweithdra uchel a segurdod ymhlith rhai 16-24 mlwydd oed ac mae wedi galw am drafodaeth genedlaethol ynghylch pam rydym yn gweld mwy a mwy o bobl ifanc allan o waith a hyfforddiant ym Mangor Aberconwy.

Heddiw, defnyddiodd Mr Milburn lansiad ffurfiol yr archwiliad i osod allan ei uchelgais i ysbrydoli ‘mudiad’ i ysgogi cymunedau ym mhob cornel o’r wlad.

Daw’r archwiliad wrth i’r Llywodraeth lansio ymgyrch fawr i gael pobl ifanc i ennill cyflog ac i ddysgu, yn cynnwys buddsoddiad diweddar o £1.5 biliwn dros gyfnod yr Adolygiad Gwariant i helpu cannoedd o filoedd yn fwy i mewn i waith neu hyfforddiant trwy’r Warant Pobl Ifanc, yn ogystal â llefydd prentisiaethau ar gyfer hyd at 50,000 yn fwy o bobl ifanc.

Mae’r Galwad am Dystiolaeth yn agored tan y 30ain o Ionawr ac yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc a’u rhanddeiliaid i siapio adroddiad Mr Milburn ac i awgrymu datrysiadau y gall y llywodraeth eu cyflwyno fydd yn newid bywydau. Mae’n awyddus i ganfasio barn unrhyw un sydd â phrofiad o’r mater hwn – o’r bobl ifanc eu hunain i’w rhieni, hyfforddwyr pêl-droed ac athrawon.

Daw hyn wythnos ar ôl i Lafur gyhoeddi mesurau newydd i gefnogi rhai 16-24 mlwydd oed ar draws Prydain. Bydd buddsoddiad Llafur yn talu am Hybiau Ieuenctid i gael eu sefydlu ar draws cymunedau lleol. Mae Hybiau Ieuenctid yn ganolfannau sy’n cynnig cefnogaeth all newid bywydau i bobl ifanc, megis cyngor gyda CV, hyfforddiant sgiliau, cefnogaeth iechyd meddwl, cyngor tai ac arweiniad gyda gyrfaoedd.

Bydd y pecyn hefyd yn darparu cannoedd o filoedd o leoliadau hyfforddiant a phrofiad gwaith newydd ar gyfer pobl ifanc sydd allan o waith ac yn hawlio budd-daliadau, a ‘Gwarant Swyddi’ newydd fydd yn rhoi cymhorthdal am chwe mis o gyflogaeth gyda thâl ar gyfer rhai 18-21 mlwydd oed sydd allan o waith yn y tymor hir neu ar y Credyd Cynhwysol.

Wrth roi sylwadau ar y cyhoeddiad, dywedodd Claire Hughes AS:

“Rwyf yn falch iawn bod yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i fuddsoddiad o gannoedd o filoedd o bunnoedd i bobl ifanc y wlad hon.

“Ond mae gormod ym Mangor Aberconwy yn cael eu dal yn ôl. Mae 355 o bobl ifanc yn stuck ar fudd-daliadau . Mae gan Llafur gynllun i gael Prydain i weithio, a bydd y Youth Guarantee hwn yn sicrhau na fydd yr un person ifanc yn cael eu gadael ar ôl.

“Ond rwyf hefyd eisiau i ni ddeall pam rydym yn gweld cymaint o bobl allan o waith ac ddim mewn hyfforddiant nac addysg. Mae’n un o faterion pwysicaf ein hamser ac rwy’n cefnogi’r symudiad i gael y genedl i gefnogi mynd i’r afael ag ef ac i roi gobaith yn ôl i’n pobl ifanc.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau, Pat McFadden:

“Mae gormod o bobl ifanc sydd ddim yn cael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial, ac mae’n argyfwng na allwn ei anwybyddu. 

“Mae’r Llywodraeth yma wedi buddsoddi £1.5 biliwn ymhellach i greu miloedd o gyfleoedd prentisiaethau gwaith a hyfforddiant, ond er mwyn troi’r llanw ar y duedd yn y tymor hirach mae angen i ni ddeall pam bod cymaint o bobl ifanc wedi eu gadael ar ôl.

“Dyna pam rwyf wedi gofyn i Alan Milburn i’n helpu i adeiladu system sy’n eu cefnogi nid yn unig i ddod o hyd i swydd, ond i adeiladu gwell dyfodol – oherwydd pan mae pobl ifanc yn llwyddo, mae Prydain yn llwyddo.” 


Cyfeiriadau

  • Roedd 355 o bobl ifanc 16-24 mlwydd oed ym Mangor Aberconwy yn hawlio budd-daliadau’n gysylltiedig a diweithdra yn cynnwys y Credyd Cynhwysol a’r Lwfans Ceisio Gwaith ym mis Hydref 2025. Ffynhonnell: ONS, cyfrifiad swyddogol ac ystadegau marchnad lafur Nomis. 

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content