Mae Llafur yn rhoi grym llawn y wladwriaeth i ddiogelu genethod ac i ddelio â chasineb yn erbyn merched ym Mangor Aberconwy
Mae Claire Hughes AS, yr AS Llafur dros Fangor Aberconwy, wedi croesawu gweithredu newydd pendant gan y llywodraeth i ddelio â chasineb tuag at ferched a cham-drin o fewn perthynas ymhlith pobl ifanc – gan ddiogelu genethod ac ymyrryd yn gynnar i atal niwed cyn iddo ddechrau.
Gyda chefnogaeth buddsoddiad o £20 miliwn, bydd cynlluniau Llafur yn gweld pob ysgol uwchradd yn Lloegr yn cryfhau’r addysg ar berthnasoedd iach a chydsyniad. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan hyfforddiant arbenigol i athrawon ac ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl ifanc sydd mewn risg o ddatblygu ymddygiadau niweidiol.
Bydd llinell gymorth genedlaethol newydd hefyd yn cael ei lansio i gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau sy’n poeni am ymddygiad camdriniol yn eu perthnasoedd, gan sicrhau bod pryderon yn cael eu trin yn gynnar yn hytrach na gadael iddynt waethygu ac achosi niwed difrifol.
Am flynyddoedd, methodd y Torïaid i weithredu wrth i gasineb tuag at ferched ledaenu ar-lein ac i gamdriniaeth rhwng rhai yn eu harddegau ddigwydd. Mae’r llywodraeth Llafur yma’n camu i mewn yn gynharach – yn cefnogi athrawon, yn cefnogi teuluoedd ac yn mynd i’r afael â syniadau gwenwynig yn uniongyrchol.
Dywedodd Claire Hughes AS:
“Rwy’n clywed gan rieni, athrawon a phobl ifanc ym Mangor Aberconwy yn rheolaidd ynghylch y pwysau mae plant yn ei wynebu ar-lein a’r angen brys am gefnogaeth gryfach.”
Dywedodd Y Prif Weinidog Llafur, Keir Starmer:
“Dylai pob rhiant allu ymddiried bod eu merch yn ddiogel yn yr ysgol, ar-lein ac yn eu perthnasoedd. Ond yn rhy aml mae syniadau gwenwynig yn cael gafael yn gynnar ac yn parhau heb eu herio. Mae’r llywodraeth yma’n camu i mewn yn gynharach – gan gefnogi rhieni, herio casineb yn erbyn merched, ac ymyrryd pan mae arwyddion rhybudd yn ymddangos – i atal y niwed cyn iddo ddigwydd.
“Mae hyn yn ymwneud ag amddiffyn genethod a gyrru’r addysgu a’r drafodaeth ymlaen gyda bechgyn a dynion ifanc, sy’n gyfrifoldeb sydd yn ddyledus arnom i’r genhedlaeth nesaf, ac un y bydd y llywodraeth yma yn ei weithredu.”
Dywedodd Claire Hughes AS, yr AS Llafur dros Bangor Aberconwy:
“Am yn rhy hir, trodd y Torïaid i ffwrdd tra roedd casineb tuag at ferched ar-lein yn lledaenu yn ddirwystr. Daw hyn i ben heddiw. Mae Llafur yn cymryd camau angenrheidiol iawn i ddiogelu genethod, i herio agweddau peryglus ac i gamu i mewn cyn i gamdriniaeth ddechrau.
“Mae rhieni ym Mangor Aberconwy yn haeddu’r sicrwydd bod eu merched yn ddiogel, a dyma pam rwy’n falch i gefnogi gwaith y llywodraeth i ddelio â thrais yn erbyn Merched a Genethod – rhoi’r sgiliau i bobl ifanc sydd eu hangen arnynt i adeiladu perthnasoedd iach a pharchus a dyfodol sy’n rhydd o gamdriniaeth.”
Mae’r mesurau heddiw yn ffurfio un rhan yn unig o Strategaeth Trais yn erbyn Merched a Genethod ehangach Llafur – gan ddod i lawr yn drwm ar gamdriniaeth yn y modd cryfaf erioed yn hanes Prydain a rhoi ataliaeth, nid esgusodion, yn ganolog i gamau gweithredu’r llywodraeth.
Ers ei ethol, mae Llafur wedi buddsoddi £550 miliwn yn y Gronfa Cefnogi Dioddefwyr, wedi cyflwyno Cyfraith Raneem i roi arbenigwyr camdriniaeth domestig mewn ystafelloedd rheoli 999 ar draws pum ardal cyntaf yr heddlu ac, yr wythnos yma, wedi cyhoeddi cynlluniau i roi mynediad cyflymach, mwy dibynadwy i’r GIG i ddioddefwyr camdriniaeth domestig a chamdriniaeth rhywiol plant trwy wasanaeth atgyfeirio pwrpasol.
Erbyn 2029, bydd gan yr heddlu ym mhob ardal dimau pwrpasol i archwilio troseddau rhywiol, a bydd Gorchmynion Amddiffyn Camdriniaeth Domestig yn cael eu cyflwyno ar draws Cymru a Lloegr – yn cynnwys cyrffyw, tagio electronig, a pharthau gwaharddedig ar gyfer cam-drinwyr. Ers eu cyflwyno yn gyntaf y llynedd, mae’r gorchmynion hyn wedi amddiffyn mwy na 1,000 o ddioddefwyr, gyda thoriadau cyfraith sydd â chosbau o hyd at bum blynedd yn y carchar.
