Article published: 23 Nov 2025

Cymudwyr a Theuluoedd ym Mangor Aberconwy i arbed arian wrth Ddychwelyd i’r Gwaith yn y Flwyddyn Newydd.

Mae Claire Hughes, yr AS Llafur dros Fangor Aberconwy wedi croesawu’r Llywodraeth Llafur yn rhewi prisiau trên, sy’n golygu y bydd cymudwyr a theuluoedd lleol yn arbed arian sydd mawr ei angen wrth iddynt ddychwelyd i’r gwaith yn y Flwyddyn Newydd. Y rhewi yma gan Lafur yw’r cyntaf o’i fath mewn 30 mlynedd.

Bydd y cam yma’n arbed cannoedd o bunnoedd i gymudwyr ar rai o’r teithiau prysuraf yn y wlad, yn dilyn degawdau o brisiau’n codi o dan y Ceidwadwyr.

Dywedodd Claire Hughes AS: 

“Bydd y rhewiad hanesyddol hwn yn rhoi cefnogaeth sydd ei angen yn fawr i deuluoedd ar draws Bangor Aberconwy. Mae Llafur yn deall y pwysau costau mae pobl sy’n gweithio’n eu gwynebu ar hyn o bryd. Dyna pam rydym yn benderfynol i barhau i leddfu costau byw er mwyn i bobl allu cadw mwy o’r arian maent yn gweithio mor galed amdano.”

Dywedodd Heidi Alexander, yr Ysgrifennydd Gwladol Trafnidiaeth Llafur:

“Rydyn ni i gyd eisiau gweld teithio ar y rheilffyrdd yn rhatach, felly rydym wedi rhewi’r prisiau i helpu miliynau o deithwyr i arbed arian. Bydd hyn yn cadw costau i lawr ar gyfer pobl sy’n gweithio ac yn helpu i leddfu’r pwysau ar gostau byw wrth iddynt fynd yn ôl i’r gwaith ar gyfer y Flwyddyn Newydd.”

“Bydd cymudwyr ar y teithiau drytach yn arbed mwy na £300 y flwyddyn, sy’n golygu y byddant yn cadw mwy o’r arian maent yn gweithio’n galed amdano.

“Mae hyn yn rhan o’n cynlluniau ehangach i ailadeiladu ‘Great British Railways’ y gall y cyhoedd fod yn falch ohonynt a dibynnu arnynt.

“Mae cynllun ehangach Llafur ar gyfer rheilffyrdd Prydain yn cynnwys sefydlu cwmni newydd dan berchnogaeth gyhoeddus o’r enw ‘Great British Railways’, fydd yn rhedeg ac yn rheoli’r traciau a’r trenau a ddefnyddir pob dydd – gan ddod â blynyddoedd o ddarnio i ben, codi safonau ar gyfer teithwyr, a gwneud teithiau yn haws ac yn well gwerth am arian.

“Bydd GBR yn atebol i deithwyr a’r trethdalwyr, gan ddod â prisiau a thicedi i mewn i’r 21ain ganrif, yn cynnwys drwy wefan ac ap GBR newydd ac adeiladu ar ehangiad y Talu Wrth Fynd llwyddiannus a threialon prisiau ar draws y wlad.”

Share this article:

Related Articles

Cofrestrwch i gael fy nghylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith fel eich AS.

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Skip to content